Mae’n ymddangos fod Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn ceisio selio dêl â Chlwb Pêl-droed Wigan Athletic am chwaraewr canol cae Cymru, Emyr Huws.

Mae Emyr Huws, 22 oed, wedi bod gyda chlwb Wigan Athletic ers dwy flynedd, a threuliodd y tymor diwethaf ar fenthyg gyda chlwb pêl-droed Huddersfield.

Eisoes yr haf hwn, mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi denu cyd chwaraewr rhyngwladol i Emyr Huws, sef Jazz Richards.

Ac maen nhw’n gobeithio denu’r chwaraewr sy’n wreiddiol o Lanelli cyn i’r ffenest drosglwyddo gau.