Bu’n rhaid aros tan y munudau olaf i dîm merched pêl-droed Cymru sicrhau gêm gyfartal 2-2 yn erbyn y Ffindir yng Nghwpan Cyprus brynhawn dydd Mercher.

Daeth y gôl hwyr o ben yr eilydd Chloe Chivers i achub y dydd i’r Cymry yn Larnaca.

Aeth y Ffindir ar y blaen wedi 10 munud drwy Adelina Engman, ond fe darodd Cymru’n ôl gyda gôl gan Kayleigh Green wedi 34 munud.

Daeth ail gôl y Ffindir wedi 63 o funudau drwy Maija Saari.

Daeth Chivers i’r cae yn syth ar ôl y gôl, ac mi rwydodd hithau gyda thair munud yn weddill yn dilyn croesiad gan Nadia Lawrence.

Bydd Cymru’n herio Gwlad Pŵyl ddydd Gwener cyn wynebu Gweriniaeth Tsiec ddydd Llun.

Mae’r gystadleuaeth yn rhan o baratoadau Cymru ar gyfer eu taith i Kazakhstan yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2017 ar Ebrill 12.

Ar hyn o bryd, mae Cymru’n drydydd yn y tabl ar ôl pedair gêm, ac mae gan Awstria flaenoriaeth o bum pwynt dros Gymru ar frig y tabl.