Mae disgwyl i’r gêm rhwng Cymru a Lloegr yn Ewro 2016 gael ei dangos ar y BBC, ar ôl i ITV benderfynu bod amser y gic gyntaf yn rhy letchwith iddyn nhw ei dangos.

Fe fydd y ddau ddarlledwr yn rhannu hawliau ar gyfer dangos holl gemau’r gystadleuaeth, ac yn ôl y Daily Mirror mae ITV wedi cael y dewis cyntaf o gemau.

Ond gan fod gêm Cymru v Lloegr yn dechrau am 2.00yp ddydd Iau 16 Mehefin, mae’n debyg bod ITV wedi penderfynu y byddai’n well ganddyn nhw ddewis gemau Lloegr yn erbyn Rwsia a Slofacia, y ddau yn dechrau am 8.00yh.

Roedd y darlledwyr wedi ceisio perswadio UEFA i symud y gêm rhwng Cymru a Lloegr i amser hwyrach er mwyn gallu manteisio ar gynulleidfa teledu uwch ym Mhrydain, ond mae hynny’n annhebygol iawn o ddigwydd.

Cymru v Lloegr – pum rheswm i edrych ymlaen

Aros i weld

Mae’n edrych felly fel mai’r BBC fydd yn dangos y gêm fawr rhwng y ddau elyn, fydd yn cael ei chwarae yn ystod oriau gwaith arferol.

Dyw’r darlledwyr heb gadarnhau eto fodd bynnag pa gemau fyddan nhw’n eu dangos i gyd.

Mae’r BBC ac ITV yn rhannu hawliau darlledu’r gystadleuaeth, felly fe fyddan nhw’n dangos yr un faint o gemau’r un, ac fe fydd y ddwy sianel yn dangos y ffeinal.

Mae’n golygu nad yw cefnogwyr Cymru’n gwybod eto pwy fydd yn darlledu eu gornest agoriadol yn erbyn Slofacia ar 11 Mehefin, sydd yn dechrau am 5.00yp, na gêm olaf y grŵp yn erbyn Rwsia ar 20 Mehefin am 8.00yh.