Capten y Geltaidd, Matthew Evans
Mae Tîm yr Wythnos yn troedio tir lled-gyfarwydd yr wythnos hon, wrth i ni ddychwelyd i Aberystwyth ar gyfer ffeinal fawr ym myd y myfyrwyr.

Mae timau chwaraeon y Geltaidd wedi denu’n sylw ni yn y gorffennol, gyda’r bechgyn a merched rygbi a’r tîm pêl-rwyd yn sgwrsio gyda golwg360 llynedd cyn gala chwaraeon yr Eisteddfod Ryng-Gol.

Y tro yma fodd bynnag y pêl-droedwyr sydd yn hawlio’r sylw, a hynny wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer un o’r gemau mwyaf ar galendr chwaraeon y brifysgol.

Troedio cae Coedlan y Parc

Mae bechgyn y Geltaidd wedi cael tymor llwyddiannus hyd yn hyn, gan orffen yn ail yn eu cynghrair Digs cyn colli yn rownd gynderfynol y Darian yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor.

Ond nos Wener 1 Mai fe fyddan nhw’n cael y cyfle i orffen y tymor ar nodyn uchel, wrth iddyn nhw herio Toke City FC yn ffeinal Cwpan Tref Aber – gyda’r gêm yn cael ei chwarae ar faes CPD Aberystwyth, Coedlan y Parc.

Dyw’r Geltaidd heb gyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth ers iddyn nhw ei hennill hi am y tro diwethaf yn 2009.

Ond maen nhw wedi cael rhediad cyfforddus i’r ffeinal gan drechu Pathetic Athletic, Sex Panthers, AC A Little Silhouette of Milan, ac FC Inter Yournan ar y ffordd (ydyn, mae enwau’r timau mor lliwgar ag erioed).

Ac roedd hwyliau digon da ar y bechgyn wrth i golwg360 fynd lawr i’w cyfarfod yr wythnos hon:

Disgwyl torf

Mae’n debyg bod tîm y Geltaidd yn adnabyddus am eu cefnogwyr croch, ac mae disgwyl y bydd torf sylweddol a swnllyd yno unwaith eto i’w cefnogi yn y ffeinal nos Wener.

Ac mae’r capten Matthew Evans yn edrych ymlaen at gael chwarae ar gae clwb o Uwch Gynghrair Cymru

“Ni’n teimlo’n hyderus, a gobeithio bydd y bois yn rhoi perfformiad da i’r gynulleidfa,” meddai’r capten.

“Bydd e’n dda i chwarae ar pitch da am unwaith!”

Yr wythnos hon bu’r tîm yn ymarfer ciciau o’r smotyn, jyst rhag ofn – ac ambell un yn well na’r llall:

Mae’r tîm hefyd yn disgwyl y bydd ambell un o gyn-aelodau a chyn-chwaraewyr y Geltaidd yn dychwelyd i’r dref ger y lli ar gyfer y gêm, gan obeithio am reswm i ddathlu.

“Fi’n credu bod eitha’ lot o hen fois y Geltaidd yn dod nôl i gael social bach ar ôl y gêm fi’n credu!” ychwanegodd Matthew Evans.

Bydd y gic gyntaf rhwng CPD Y Geltaidd a Toke City FC ar Goedlan y Parc am 7.00yh, nos Wener 1 Mai.