Mae tîm pêl-droed Caerdydd wedi cyhoeddi Russell Slade fel eu rheolwr newydd.

Roedd disgwyl i Russell Slade, wnaeth adael Leyton Orient fis diwethaf, gael ei enwi fel rheolwr newydd yr Adar Gleision wedi i Ole Gunnar Solskjaer adael ar 18 Medi.

Bydd yn dechrau’r swydd gyda’i glwb newydd yn y pymthegfed safle yn dilyn eu cwymp o’r Uwch Gynghrair y tymor diwethaf a gyda dim ond un fuddugoliaeth mewn naw gêm gynghrair eleni.

Dywedodd perchennog yr Adar Gleision, Vincent Tan: “Rwyf wrth fy modd o allu penodi Russell Slade fel rheolwr Dinas Caerdydd.

“Rwyf i’n bersonol wedi cynnig y cyfle hwn i Russell ar ôl rhoi llawer o ystyriaeth i anghenion y clwb ar hyn o bryd. Rwy’n gadarn o’r farn mai ef yw’r person cywir ar gyfer y swydd.”

Mae Russell Slade wedi cael cyfnodau yn rheoli Grimsby, Yeovil a Brighton, ond gyda Leyton Orient fe wnaeth o ei enw.

Bydd ei gêm gyntaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn erbyn Nottingham Forest heb golli gêm ar 18 Hydref.