Alun Rhys Chivers
Gohebydd Golwg360 Alun Rhys Chivers sy’n rhannu ei brofiadau o geisio gwylio a/neu recordio pob un gêm yng Nghwpan y Byd – gan drio osgoi clywed y sgôr ymlaen llaw!

Mae penwythnos cynta Cwpan y Byd wedi rhoi blas i fi o ddiwrnod ym mywyd y cymeriadau Terry a Bob yn y gyfres ‘Whatever Happened to the Likely Lads’ o’r 1970au.

Tybed ydych chi wedi gweld y rhifyn ‘No Hiding Place’? Mae’n dilyn hynt a helynt y ddau ‘Geordie’ wrth iddyn nhw drio osgoi clywed canlyniad gêm bêl-droed Lloegr v Bwlgaria o amser cinio tan fod yr uchafbwyntiau’n cael eu darlledu’r noson honno. Mae eu hymdrechion yn dechrau mewn siop trin gwallt ar ôl gwneud bet y gallen nhw osgoi’r sgôr, ac yn mynd ag un ohonyn nhw i ysbyty i roi gwaed a hyd yn oed i eglwys. Ond lle bynnag maen nhw’n troi, maen nhw’n dod wyneb yn wyneb â Flint (Brian Glover) sydd yn barod iawn i ddweud y sgôr wrthyn nhw.

Byddai’n dipyn o orchest o ystyried bodolaeth y teledu, y radio a’r papurau newydd! Beth petai rywun yn mynd ati i ail-greu’r sefyllfa honno yn yr oes sydd ohoni? Mae bodolaeth gwefannau cymdeithasol fel Facebook a Twitter a newyddion ar-lein(!) yn ei gwneud hi bron yn amhosib bellach. Dyma fi’n mynd ati i weld pa mor anodd fyddai hi…. Dim ond un peth amdani felly – diffodd y cyfrifiadur, a gadael i fatri fy ffôn fynd yn fflat!

Wedi fy ysbrydoli gan y Likely Lads, fe wnes i osod her i fi fy hun – gwylio pob un gêm yng Nghwpan y Byd, boed yn fyw neu wedi’u recordio ar Sky+ heb wybod y canlyniad ymlaen llaw. Os yw technoleg fodern wedi gwneud yr her yn fwy anodd, mae Sky+ yn sicr yn eithriad gan fy helpu i allu parhau â’m bywyd bob dydd – ond mae osgoi clywed y canlyniadau’n fater arall!

Man cychwyn unrhyw Gwpan y Byd yw’r seremoni agoriadol – a rhaid dweud bod y cyffro wedi troi’n siom ar ôl hanner awr o’m bywyd na chaf fi fyth yn ôl. Fel dywedodd rhywun ar Twitter, roedd y seremoni’n fwy Susan Boyle na Danny Boyle! Yn llawn siom ond yn gyffrous am y noson gyntaf o gemau, es i ati i gwblhau’r ddefod wythnosol o fynd i’r cwis tafarn – ie, ie, dwi’n gwybod, lle twp i drio osgoi canlyniad pêl-droed! Gosodais i’r Sky+ yn barod i recordio Brasil v Croatia cyn mynd, a bant â fi.

Cerdded i mewn trwy ddrws y dafarn a chael fy nghyfarch gan y landlord: “Brasil newydd gael gôl nôl!” Diolch, boi! Damia! Oce, o’n i’n gwybod felly fod ‘na ddwy gôl o leiaf yn yr hanner cynta. Edrych yn gyflym ar y cloc a sylwi bod ‘na o leia bum munud tan hanner amser – o’n i’n eitha saff am y tro. Casglais i ‘mheint oddi ar y bar a mentro draw i’r bwrdd lle oedd fy ffrindiau’n eistedd. Gweld bod yr un boi sy’n hoff o bêl-droed ddim yno. Rhaid bod e adre’n gwylio’r gêm. Cyrraedd hanner ffordd trwy’r cwis a chwestiynau digon dadleuol – dim sôn am y gêm na’r sgôr. Fy mêt yn fy ngweld i’n chwysu ac yn troi at y bar drws nesa: “Beth yw’r sgôr, bois?!” Gwên chwareus rhwng pawb ac ymlaen â’r cwis. Cyrraedd diwedd y cwis a’r landlord ar fin cyhoeddi’r sgôr. Naaa! “Alun, rho dy fysedd yn dy glustiau!” Roedd hi’n ymddangos yn fwy posib erbyn hyn i osgoi’r sgôr. Ymlaen â’r atebion, ac ymgolli yn hynny tan y gallwn i ddianc o’r dafarn yn gwybod ‘mod i’n saff. Ond yn sydyn reit, dechrau chwysu wrth sylweddoli bod fy mêt yn y dafarn wedi’r cyfan, a’i fod e wedi bod yn gwylio’r gêm yn y bar drws nesa. Damia! Dyna ni, yr her ar ben – neu oedd hi? Daeth e draw a chael rhybudd i beidio yngan yr un gair am y canlyniad. “O’n i’n mynd i ffonio’r mab – sut dwi fod i drafod y gêm gydag e heb ddweud y sgôr?!” Ei broblem e, nid fy un i, meddyliais. Fe wnaeth jobyn go dda ohoni, chwarae teg!

Yn llawn rhyddhad, neidiais yn y car ar ddiwedd y noson, cyrraedd adre, arllwys peint a rhoi ‘nhraed lan o flaen y teledu.

Trodd y rhyddhad yn banic llwyr y diwrnod canlynol, o sylweddoli y byddai’n rhaid ailadrodd yr un ddefod os ydw i am lwyddo i gynnal bywyd cymdeithasol yn ystod y mis nesa.

Ar ôl cyffro nos Iau, roedd rhaid gosod y Sky+ nos Wener wrth i griced gael y flaenoriaeth. Llwyddais i adael Stadiwm Swalec â’r her rywsut yn bosib o hyd. Roedd tair gêm mewn noson yn golygu ‘mod i’n gorfod dileu ambell raglen o’r rhestr i adael digon o le am hyd at bum awr o bêl-droed. Oedd gwir angen tair rhaglen am Dylan Thomas? Dim peryg y byddwn i’n dileu ‘Bottom’ na’r ‘Young Ones’.

Codi fore Sadwrn a chymryd y cam cyntaf wrth geisio cyflawni her nad o’n i erioed wedi’i chyflawni o’r blaen – gwylio chwe gêm mewn un diwrnod! Ond cofiwch, roedd rhaid eu gwylio nhw yn eu trefn rhag i fi glywed un o’r canlyniadau – er o’n i’n ysu cael gweld Sbaen v Yr Iseldiroedd! Ond dechrau gyda gêm ddigon difflach rhwng Mecsico a Cameroon. Os oedd hon wedi fy siomi, roedd yr ornest fawr ar ben arall y sbectrwm. Fel cefnogwr Abertawe, roedd gweld Jonathan de Guzman yng nghrys oren Yr Iseldiroedd wedi ychwanegu at y profiad. Do’n i, fel bron pawb arall, ddim wedi rhagweld buddugoliaeth mor swmpus i’r Iseldiroedd yn erbyn y pencampwyr presennol. Byddai Chile yn erbyn Awstralia, yn dilyn honna, fel gwylio dau dîm cynghrair dydd Sul.

Dyna fi, felly, wedi cyrraedd prynhawn dydd Sadwrn wedi gweld pob un munud o’r gemau hyd hynny. Tair gêm ar ben, tair i fynd a siâp fy nghorff wedi treiddio i’r soffa! Jyst digon o amser i gael llenwi ‘mola a gosod y ‘matchsticks’ ar gyfer tair gêm nos Sadwrn. Gweld digon o addewid ym mherfformiad Colombia i ddechrau a phrofi nad yw tactegau negyddol fel eiddo Groeg, diolch byth, ddim wastad yn dwyn ffrwyth. Digon o hwyl a sbri i’w gael wedyn yn yr ornest rhwng dau dîm o Dde America – Wrwgwai a Costa Rica. Mae dyfodol disglair o flaen Joel Campbell, crwtyn ifanc Costa Rica, dwi’n meddwl. Newid yn gyflym wedyn i mewn i ‘nghrys glas yn barod i wylio’r Eidal yn trechu Lloegr! Yr angen am gwsg wedi’i guro gan yr angen i aros ar ddihun ychydig yn hirach i wrando ar esgusodion tila’r cyfryngau i esbonio pam fod Lloegr wedi colli unwaith eto! Gallwn i fynd i’r gwely’n wên o glust i glust wedyn. OND! Digwydd gweld hysbyseb wedyn ar ddiwedd y rhaglen wrth i fi anelu am y botwm i ddiffodd y teledu. Côte d’Ivoire v Japan HENO! Dyna fi yn fy nhwpdra wedi checio’r rhestr gemau ym mlaen y llyfr sticeri – dydd Sul. Gweld wedyn bod 2 o’r gloch y bore’n cyfri fel dydd Sul. Y matchsticks yn ôl yn fy llygaid, fe deimlais y wefr o weld ymosodwr Abertawe, Wilfried Bony ar y sgrin. Llwyddo wedyn i aros ar ddihun jyst digon hir i’w weld e’n sgorio. Bron i fi neidio allan o’r sedd a gweiddi “C’mon Wilfried Bony….!” cyn sylweddoli bod hi bron yn 3 o’r gloch y bore a’r cymdogion wedi hen fynd i’r cae sgwâr tra ‘mod i wedi hoelio fy sylw ar gae arall ym Mrasil!

Diwrnod digon hamddenol wedyn ddydd Sul – a dim ond tair gêm i’w gwylio. DIM OND tair! Sul y Tadau, wrth gwrs, yn golygu bod siâp dau gorff ar y soffa erbyn hyn!

Y Swistir v Ecuador yn ornest ddigon cyffrous a’r fuddugoliaeth i’r Swistir i’w ddisgwyl. Ffrainc yn erbyn Honduras wedyn yn un o’r galeta mor belled – Paul Pogba a Wilson Pallacios yn lwcus i aros ar y cae ar ôl cicio’i gilydd. Ond cyfle wedi’i golli, diolch i system PA gwael, i glywed ‘La Marseillaise”. A rhagor o gyffro hefyd wrth i’r sylwebyddion geisio dygymod â’r dechnoleg llinell gôl newydd – “Mae’n gôl… Na’dy ddim… Ydy mae hi!” Yr Ariannin v Bosnia wedyn yn ddiweddglo gwych i benwythnos cyffrous – Lionel Messi yn erbyn Edin Dzeko.

Ar y cyfan, penwythnos eitha llwyddiannus ges i. Yn wahanol i’r Likely Lads, do’n i ddim wedi cael fy arteithio o ddarganfod fod unrhyw gêm wedi’i gohirio! Dydd Llun, felly. Tafarn wahanol, cwis gwahanol. Ond yr un hen ddefod amdani unwaith eto….