Mae myfyrwyr o Brifysgol Abertawe wedi helpu i greu ap i wella profiad cefnogwyr clwb pêl droed y ddinas.

Daeth cadarnhad heddiw fod y prosiect rhwng y myfyrwyr gwyddorau cyfrifiadurol a chwmni Software Alliance wedi dod i ben gyda chyhoeddi’r ap.

Bwriad y clwb ar ddechrau’r prosiect oedd dod o hyd i ddulliau newydd o ymgysylltu â’r cefnogwyr mewn ffordd ryngweithiol er mwyn datblygu eu cynllun busnes.

Mae Software Alliance yn arbenigo mewn prosiectau rhwng myfyrwyr a busnesau lleol sy’n datblygu eu strategaethau technoleg gwybodaeth.

Y tri fu’n gyfrifol am ddatblygu’r ap yw Bradley Coles-Perkins, Sam Lucas a Jon Phillips.

Roedd Bradley Coles-Perkins yn gyfrifol am greu ap ar gyfer i-phone Apple a fyddai’n galluogi cefnogwyr i brynu taflenni gwybodaeth gan ddefnyddio’u ffôn.

Datblygodd Sam Lucas gwis rhyngweithiol ar gyfer dyfeisiau Android, ac fe greodd Jon Phillips ap ar y we lle y gallai’r clwb gynnal cystadlaethau i’r cefnogwyr.

Dywedodd is-gadeirydd Clwb Pêl-droed Abertawe, Leigh Dineen: “Rydyn ni’n ymroddedig i fuddsoddi yn y gymuned leol ac mae hyn yn cynnwys buddsoddi mewn pobol a sgiliau.

“Mae Software Alliance a Phrifysgol Abertawe’n adnabyddus am gynhyrchu myfyrwyr TG o’r radd flaenaf felly roedden ni wrth ein bodd o allu defnyddio sgiliau TG sylweddol tri o’u myfyrwyr mwyaf disglair ac ar yr un pryd, rhoi ychydig o brofiad busnes iddyn nhw ar gyfer eu CV.”

Dywedodd Bradley Coles-Perkins: “Bu’n brofiad gwych i weithio gyda’r clwb pêl-droed.

“Rwy wedi cael tipyn o hyblygrwydd a hunanreolaeth sydd wedi fy ngalluogi i fod yn greadigol gyda fy mhrosiect, ond ar yr un pryd, rwy’n gwybod fod gyda fi gefnogaeth y busnes, y brifysgol a thîm Software Alliance.”

Dywedodd cyfarwyddwr prosiectau Software Alliance, Dr Neal Harman fod y prosiect yn un “allweddol”.

Mae’r clwb wrthi’n paratoi i ddatblygu’r prosiectau ymhellach.