Joe Ledley yn chwarae i Gymru
Mae Crystal Palace wedi cadarnhau eu bod wedi arwyddo chwaraewr canol cae Cymru a Celtic, Joe Ledley, am ffi sydd heb ei ddatgelu.

Dim ond chwech mis oedd gan Ledley ar ôl ar ei gytundeb gyda’r Albanwyr, ac felly fe benderfynodd Celtic ei werthu ddoe funuduau yn unig cyn i’r ffenestr drosglwyddo gau yn hytrach na’i golli am ddim yn yr haf.

Ledley yw’r ail Gymro i Palace arwyddo’r mis hwn, ar ôl iddyn nhw brynu Wayne Hennessey o Wolves ddoe hefyd.

Mae’r ddau yn ymuno â’u cyd-Gymry Danny Gabbidon, Jonathan Williams, a Lewis Price yng ngharfan Palace, sy’n cael eu rheoli gan y Cymro Tony Pulis.

Dechreuodd Ledley ei yrfa gyda Chaerdydd, gan chwarae dros 200 o weithiau i’r clwb cyn symud i Celtic yn 2010 pan ddaeth ei gytundeb i ben.

Yn ystod ei gyfnod gyda Celtic fe enillodd Gynghrair yr Alban a Chwpan yr Alban ddwywaith, a dod yn ffefryn ymysg y cefnogwyr.

Mae hefyd wedi ennill hanner cant o gapiau dros Gymru, gan sgorio dair gwaith.