Peter Whittingham a achubodd y dydd i'r Adar Gleision heddiw
Gyda gôl yn yr ail hanner gan Peter Whittingham, llwyddodd Caerdydd i ddal eu tir mewn gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Hull oddi cartref.

Roedd Curtis Davies wedi penio croesiad gan Tom Huddlestone i mewn i’r rhwyd yn y 40fed munud i roi Hull ar y blaen, cyn i Gaerdydd unioni’r sgôr chwarter awr i mewn i’r ail hanner.

Roedd yn ganlyniad teg, gan na wnaeth y naill dîm na’r llall ddigon i ennill rheolaeth ar y gêm, er mae’n debyg mai Hull fydd y mwyaf siomedig o’r ddau dîm wrth golli cyfle gartref.