Caerdydd 0   :    0 Everton

Roedd y dorf yng Nghaerdydd yn llawn cyffro, ond di-sgôr oedd hi ar ddiwedd y gêm.

Mi fydd yn rhaid i Roberto Martinez ddisgwyl, felly, am ei fuddugoliaeth gyntaf fel rheolwr Everton.

Mi roedd hi’n gêm gystadleuol, ond efallai fod Caerdydd yn lwcus. Mi fydd chwaraewyr Everton yn teimlo’n flin braidd na ddyfarnwyd dwy gic gosb iddyn nhw yn ystod yr hanner gyntaf.

Gêm gyfartal, ac mae Caerdydd bellach wedi esgyn i’r degfed safle yn y gynghrair.