Gyda’r newyddion na fydd criced sirol yn dychwelyd cyn Awst 1, gêm ugain pelawd o’r gorffennol sydd dan sylw yn y darn diweddaraf yn edrych yn ôl ar rai o gemau mwyaf cofiadwy Morgannwg.

Daeth Morgannwg o fewn trwch blewyn o gyrraedd Diwrnod y Ffeinals yn 2016, gan golli allan yn erbyn Swydd Efrog yng Nghaerdydd yn rownd yr wyth olaf.

Ond fe wnaethon nhw gyrraedd yr wyth olaf diolch yn bennaf i fatiad campus y capten Colin Ingram, wrth iddo daro 101 yn erbyn Essex o dan y llifoleuadau yng Nghaerdydd.

Tra bod Essex, wrth gipio pwynt ar ddiwedd gornest a ddaeth i ben yn y glaw, wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf am y pumed tro yn olynol, roedd ymdeimlad o amgylch Gerddi Sophia fod rhywbeth arbennig ar y gorwel i Forgannwg, oedd eisoes yn sicr o’u lle.

56 o belenni’n unig gymerodd hi i Colin Ingram gyrraedd ei ganred, wrth i Forgannwg sgorio 184 am bump yn eu hugain pelawd. Roedd ei fatiad yn cynnwys saith chwech a chwe phedwar – er fe allai fod wedi dod i ben yn gynt o lawer wrth iddo oroesi daliad a stympiad.

Dyma’r pumed tro yn y gystadleuaeth iddo sgorio hanner canred a mwy, dridiau’n unig ar ôl iddo fe daro canred yn y gystadleuaeth 50 pelawd.

Hon, gyda llaw, oedd gêm ugain pelawd olaf Graham Napier yng nghrys Essex ac fe gipiodd y wiced fawr cyn i’r llenni gau ar ei yrfa.

Fe wnaeth Colin Ingram gyfaddef nad hwn oedd ei fatiad mwyaf celfydd erioed ond roedd ei arwyddocâd yn sylweddol, wrth i Forgannwg fynd yn eu blaenau i golli allan o drwch blewyn yn y gêm ganlynol yn erbyn Swydd Efrog ar le ymhlith yr wyth olaf – sbardun, mae’n siŵr, i sicrhau na fydden nhw’n colli allan am yr ail dymor yn olynol wrth iddyn nhw gyrraedd Diwrnod y Ffeinals yn 2017.