Yn y darn diweddaraf yn edrych ar rai o gemau’r gorffennol rhwng Morgannwg a’r timau y dylen nhw fod wedi’u herio y tymor hwn, does ond angen troi’r cloc yn ôl dair blynedd.

Roedd ymweliad Swydd Derby â Gerddi Sophia yn 2017 yn un hanesyddol, wrth i gêm Bencampwriaeth gael ei chynnal o dan lifoleuadau Gerddi Sophia am y tro cyntaf.

Gyda holl sylw’r byd criced ar y pryd ar ddull newydd eto fyth o griced, fe hawliodd troellwr 16 oed ei le yn y penawdau yn ei ail gêm yn unig i’r ymwelwyr.

Daeth Hamidullah Qadri a’i deulu o Affganistan i ganolbarth Lloegr – er i’w dad aros yno am waith – ac roedd y cricedwr ifanc wedi bod yn chwarae mewn cynghrair leol pan gafodd ei weld gan Swydd Derby.

Fe fyddai perfformio fel y gwnaeth e, gan gipio pum wiced mewn batiad, yn dipyn o gamp i unrhyw gricedwr ifanc mor gynnar yn ei yrfa, ond roedd gwneud hynny o dan y llifoleuadau gyda phêl binc arbrofol oedd mor anghyfarwydd i hyd yn oed y cricedwyr mwyaf profiadol, yn anhygoel.

Roedd camp Swydd Derby, wrth ennill gêm Bencampwriaeth am y tro cyntaf ers dwy flynedd – neu 710 o ddiwrnodau, a bod yn fanwl gywir – yn rhyfeddol hefyd o ystyried y cyfnod mor ansefydlog gawson nhw yn ystod y tymhorau blaenorol.

Roedd hawlio’r sylw mewn tîm oedd hefyd yn cynnwys Jeevan Mendis, troellwr rhyngwladol o Sri Lanca, yn codi camp Hamidullah Qadri yn uwch eto fyth.

Cyd-destun y gêm

Roedd cryn gyffro ar y pryd y gallai gêm pedwar diwrnod o dan y goleuadau ddenu torf newydd i Gaerdydd – ond nid felly y bu ac fe ddigwyddodd cryn dipyn o orchestion Hamidullah Qadri i gyfeiliant cymeradwyaeth boléit ar y gorau.

Roedd dechrau gwylio gêm Bencampwriaeth ganol y prynhawn yn deimlad rhyfedd, a dweud y lleiaf, yn enwedig gyda’r bêl binc newydd oedd yn teimlo fel gimic a fyddai’n cwympo’n fflat.

Gyda bowlwyr Morgannwg wedi mynd i hwyliau’n gynnar yn y gêm, roedd y Saeson yn 143 am chwech o fewn dim o dro, ac roedd hi’n annhebygol y bydden ni’n cael diweddglo cyffrous o dan y goleuadau o gwbl.

Gyda’r bat y cafodd Hamidullah Qadri ei flas cyntaf ar griced sirol yng Nghymru, ac yntau wedi dod y cricedwr cyntaf i’w eni ers 2000 a’r ieuengaf erioed yn y Bencampwriaeth.

Roedd y Saeson i gyd allan am 288 yn y pen draw.

Trafferthion batio

Roedd batwyr Morgannwg mewn dyfroedd dyfnion yn gynnar iawn yn eu batiad cyntaf hefyd, wrth i Tony Palladino gipio tair wiced mewn 14 o belenni i adael y sir Gymreig yn 87 am bedair.

Brwydron nhw’n ôl i 237 i gyd allan erbyn diwedd yr ail ddiwrnod, ac roedd unrhyw arwydd o gyffro wedi hen ddiflannu.

Daeth y glaw ar y trydydd diwrnod ond pan ddechreuodd y gêm eto bedair awr yn hwyr, roedd batwyr Swydd Derby eu hunain mewn trafferth yn gynnar iawn, ac roedden nhw’n 117 am saith erbyn egwyl gynta’r dydd.

Llwyddon nhw i gyrraedd 160 cyn cael eu bowlio allan, i adael nod o 212 i Forgannwg.

Y troellwyr yn camu i ganol y llwyfan

Gyda’r ornest yn debygol o orffen yn gyfartal drwy gydol y diwrnodau blaenorol, roedd trafferthion y batwyr yn golygu bod canlyniad positif yn bositif yn y pen draw.

Cipiodd Jeevan Mendis wiced Jacques Rudolph cyn diwedd y trydydd diwrnod i adael Morgannwg un wiced i lawr heb sgorio.

Cipiodd Qadri y gyntaf o’i wicedi’n gynnar ar y bore olaf, wrth waredu’r noswyliwr Timm van der Gugten a dilynodd Owen Morgan yn dynn ar ei sodlau i roi wiced arall i Mendis.

Daeth wiced arall i Qadri, wrth iddo waredu Colin Ingram i adael Morgannwg yn 42 am bedair, cyn i droellwr arall, Wayne Madsen ddanfon Aneurin Donald yn ôl i’r pafiliwn, a Morgannwg yn 92 am bump.

Gyda Morgannwg yn 99 am chwech yn dilyn ymadawiad Nick Selman, cipiodd Qadri y ddwy wiced nesaf – Andrew Salter a Graham Wagg – i adael Morgannwg yn 135 am wyth.

Cafodd Chris Cooke ei redeg allan gyda Morgannwg yn 160 am naw, a thro Qadri oedd hi unwaith eto i ddathlu gyda Michael Hogan wedi’i ddal gan Mendis, a Morgannwg yn 172 i gyd allan ac yn colli o 39 o rediadau.

Beth nesaf i Hamidullah Qadri?

Er iddo fagu enw iddo fe ei hun fel cricedwr ifanc disglair, gan fynd yn ei flaen i gynrychioli Llewod Lloegr – yr ail dîm cenedlaethol – wnaeth e ddim cweit gyrraedd ei botensial llawn.

Ar ôl dwy flynedd gyda Swydd Derby, ymunodd e â Swydd Caint ar ddiwedd 2019.

Roedd y gaeaf yn un prysur iddo fe, ac yntau wedi’i enwi yn nhîm dan 19 Lloegr ar gyfer cystadleuaeth 50 pelawd yn y Caribî, ac fe gadwodd ei le yn y garfan ddeufis yn ddiweddarach ar gyfer Cwpan y Byd dan 19.

A fydd e’n gallu cynnal ei enw da yng Nghaergaint? Mae’n bosib y bydd rhaid i ni aros tan y tymor nesaf i ddarganfod yr ateb.