Mae Clwb Criced Dolgellau’n wynebu’r posibilrwydd o golli £8,000 yn sgil y coronafeirws, yn ôl un o swyddogion blaenllaw’r clwb.

Fe fu Gareth Lanagan, hyfforddwr a chadeirydd y clwb, yn siarad â golwg360 ar adeg pan fyddai clybiau ar hyd a lled y wlad fel arfer yn paratoi ar gyfer dechrau’r tymor.

Ond yn sgil cyhoeddiad diweddaraf Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, fydd dim criced ar lawr gwlad am gyfnod amhenodol.

Dydy sefyllfa Dolgellau ddim yn unigryw, gyda chlybiau ar hyd a lled Cymru’n wynebu colledion sylweddol.

“Yn amlwg, yn y cyd-destun ehangach, dyw’r criced ddim yn bwysig,” meddai Gareth Lanagan wrth golwg360.

“Mae’n edrych yn bosib na fydd criced eleni, ac efallai mai dyna’r peth gorau yn nhermau’r feirws, yn enwedig gan ystyried y pellteroedd rydym yn teithio.

“Ond yr effaith fwyaf o ran y clwb yw’r effaith ariannol.

“Achos y diffyg criced, byddwn yn colli tua £8,000 ac felly, bydd angen bod yn synhwyrol i gael y clwb i oresgyn y feirws a hefyd i sicrhau ein bod ni’n cadw aelodau.”

Gwneud pethau ychydig yn wahanol

Fel y bydd sawl clwb arall yn ei wneud dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod, mae Clwb Criced Dolgellau wedi addasu eu ffyrdd o gynnal eu busnes dydd i ddydd yn sgil diffyg gemau.

“Rydym yn gweithio’n galed gyda hwn, yn rhannu fideos hyfforddi, cynnal cyfarfodydd pwyllgor rhithiol a cwis rhithiol,” meddai.

“Mae chwaraewyr yn defnyddio Strava i edrych ar yr hyn sydd i’w wneud i gadw’n iach.

“Rydym yn rhannu fideos gyda’n gilydd er mwyn cadw llygad ar bethau.”

Ond a fydd gemau cyn diwedd y tymor sy’n gwestiwn arall.

“Rydym yn obeithiol ar ddiwedd y cyfnod efallai y bydd cymdeithas yn newid, a gallwn weld chwaraewyr yn dod ’nôl i chwarae.”