Mae Clwb Criced Morgannwg yn cynnig tocynnau rhad ac am ddim i unrhyw aelod o staff y Gwasanaeth Iechyd sy’n cael eu henwebu fel rhan o’r cynllun.

Does dim criced ar hyn o bryd yn sgil gwarchae’r coronafeirws, a dydy hi ddim yn glir eto pryd fydd y byd chwaraeon yn dod yn ôl i drefn.

O ystyried hynny, mae’r clwb yn dweud y byddan nhw’n cynnig tocynnau ar gyfer gemau ugain pelawd y tymor nesaf os na fydd hi’n bosib dechrau’r tymor eleni.

Er mwyn cael y tocynnau oedolion ar gyfer pum gêm, fe fydd rhaid i unigolion gael eu henwebu fel ‘Arwr y Gwasanaeth Iechyd’ – mae holl docynnau ugain pelawd Morgannwg eisoes yn rhad ac am ddim i blant.

‘Diolchgar’

“Ar yr adeg ddigynsail hon, hoffai’r clwb nodi ein diolchgarwch i’r rhai sy’n gweithio i’n cadw ni’n ddiogel a iach,” meddai Huw Warren, pennaeth masnach y clwb.

“Fel arwydd o’n gwerthfawrogiad, rydym yn cynnig i unrhyw aelod o staff y Gwasanaeth Iechyd sy’n cael ei enwebu, bum tocyn i gêm T20 yng Ngerddi Sophia.

“Mae gen i aelodau fy nheulu fy hun sydd yn y rheng flaen, ac mae gan bawb eu harwyr o fewn eu ffrindiau a’u teuluoedd y gallan nhw eu henwebu i fwynhau noson yn y criced.

“Rydym am i’r cyhoedd helpu i ddathlu ein gwir arwyr yn ein bywydau bob dydd, ac rydym am eu helpu nhw i gael eu gwobrwyo am eu anhunanoldeb a’u haberth yn yr hinsawdd sydd ohoni.”