Ar y penwythnos pan ddylai Pencampwriaeth y Siroedd fod yn dechrau i Forgannwg, mae Clwb Criced Morgannwg yn gofyn i gefnogwyr adeiladu eu “batiwr perffaith” fel rhan o bleidlais ar y we.

Bydd y batiwr perffaith yn cael ei adeiladu ar sail gallu i gyflawni cyfres o ergydion – ergyd i’r cyfar, torri, tynnu a sgubo’r bêl yn ogystal ag ergyd amddiffynnol ar y droed flaen.

Mae’r clwb wedi creu rhestr fer ar gyfer pob categori, gan roi’r gair olaf i’r cefogwyr.

Y pedwar ar y rhestr fer ar gyfer ergyd i’r cyfar yw Majid Khan, Steve James, Alan Jones a Viv Richards.

O ran torri’r bêl, mae gan gefnogwyr ddewis rhwng Tony Cottey, Viv Richards, Matthew Maynard a Javed Miandad.

Gareth Rees, Darren Thomas, Javed Miandad a Tony Cottey yw’r pedwar yn y categori ar gyfer sgubo’r bêl.

Y goreuon am dynnu’r bêl, yn ôl y rhestr fer, yw Matthew Elliott, Viv Richards, Javed Miandad a John Hopkins.

O ran batwyr amddiffynnol ar y droed flaen, y rhai sy’n cyrraedd y rhestr fer yw Hugh Morris, Steve James, Allan Watkins ac Alan Butcher.

Mae modd pleidleisio drwy fynd i wefan Morgannwg.

Pwy fydd yn cael eich pleidlais chi?