Mae Clwb Criced Morgannwg wedi datgan eu gwerthfawrogiad ar ôl iddyn nhw dderbyn llythyr o gefnogaeth gan y Tywysog Charles yn ystod ymlediad y coronafeirws.

Mae’n brif noddwr y clwb, ac mae wedi mynegi ei gydymdeimlad â’r clwb a gyhoeddodd yr wythnos hon fod eu staff yn mynd ar gennad am gyfnod gan nad oe modd dechrau’r tymor criced, oedd i fod i ddechrau’n ddiweddarach y mis yma.

Daw’r llythyr ar ôl i’r Tywysog Charles fod yn dioddef o’r coronafeirws yn ddiweddar.

Y llythyr

Yn y llythyr sydd wedi’i gyfeirio at “bawb yng Nghlwb Criced Morgannwg”, dywed y tywysog ein bod ni’n wynebu “cyfnod di-gynsail o anawsterau, anghyfleustra a phryder dwys”.

Mae’n dweud ei fod “yn meddwl am bawb ynghlwm wrth Glwb Criced Morgannwg wrth i chi ei chael hi’n anodd ymdopi â’r heriau enfawr sydd wedi codi yn eich bywydau”.

“Fel eich noddwr, does gen i ddim byd ond y cydymdeimlad mwyaf am y sefyllfa anodd rydych chi’n ei hwynebu a’r penderfyniadau ac amgylchiadau anodd a niferus y mae’n rhaid eu rheoli,” meddai.

“Yn anad dim, rwy’n siŵr y byddwch chi’n gwneud eich gorau glas i gynnal yr elfennau hanfodol rydych chi i gyd yn eu gwneud mor arbennig ac yr ydw i mor falch ohonyn nhw fel eich noddwr.

“Rwyf am i chi wybod, felly, y gallaf ddychmygu’n iawn y pwysau ofnadwy sydd arnoch chi mor sydyn ac annisgwyl ac y byddaf i’n cydymdeimlo’n fawr â chi a’ch teuluoedd dros yr wythnosau a’r misoedd o’r fath ansicrwydd erchyll sydd i ddod.”

Ymateb Morgannwg

Mae Hugh Morris, prif weithredwr y clwb, wedi croesawu’r llythyr brenhinol.

“Ar ran y Bwrdd, staff ac aelodau Clwb Criced Morgannwg, hoffwn fynegi ein gwerthfawrogi diffuant am y neges hon am yr heriau rydyn ni’n eu hwynebu ar hyn o bryd o ganlyniad i bandemig y coronafeirws,” meddai.

“Mae’r math yma o eiriau wedi dod â chryn gysur i’r clwb ar adeg o ofid a phryder ac rydym oll yn eu gwerthfawrogi nhw’n fawr.”