Mae gemau criced ar lawr gwlad wedi’u gohirio am y tro oherwydd y coronafeirws.

Daw’r cyhoeddiad gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) wythnosau’n unig cyn i’r tymor proffesiynol ddechrau.

Ond am y tro, mae’r cyhoeddiad yn golygu na fydd cynghreiriau ar hyd a lled Cymru’n cael cynnal gemau am gyfnod amhenodol, ac na fydd timau’n cael cwrdd i ymarfer na chynnal unrhyw fath o weithgareddau.

Fe ddaw ar ôl i gyrff rheoli nifer fawr o gampau gyhoeddi na fyddan nhw’n cynnal gemau a chystadlaethau yn unol â chyngor Llywodraeth Prydain.

Fe fydd cyhoeddiad am y gêm broffesiynol cyn diwedd yr wythnos, pan fydd Morgannwg yn darganfod sut fydd y feirws yn effeithio ar eu tymor nhw yn un o 18 o siroedd Cymru a Lloegr.