Daeth cadarnhad mai Steve Smith yw capten y tîm criced dinesig newydd yng Nghaerdydd.

Bydd cyn-gapten Awstralia’n arwain y Tân Cymreig yn ystod tymor cynta’r gystadleuaeth Can Pelen.

Mae’r batiwr llaw dde yn ail ar restr detholion batwyr y byd.

Hefyd yn y garfan mae ei gydwladwr Mitchell Starc, ynghyd â’r Saeson Jonny Bairstow a Liam Plunkett.

Bydd y Tân Cymreig yn herio’r Oval Invincibles ar ddiwrnod cynta’r gystadleuaeth ar Orffennaf 17.

Bydd y gystadleuaeth yn dod i ben ar Awst 15, ond dydy hi ddim yn glir eto a fydd chwaraewyr rhyngwladol Awstralia ar gael am y gystadleuaeth gyfan oherwydd ymrwymiadau gyda’r tîm cenedlaethol.

‘Anrhydedd’

“Mae’n anrhydedd cael cais i fod yn gapten ar y Tân Cymreig ym mlwyddyn gynta’r Can Pelen,” meddai Steve Smith.

“Mae ein carfan yn edrych yn arbennig o gryf gyda chriw da o chwaraewyr sydd wedi dominyddu’r llwyfannau rhyngwladol a domestig dros y blynyddoedd diwethaf.

“Mae Tom Banton yn un o’r chwaraewyr ifainc mwya’ cyffrous yn y byd ar hyn o bryd, ac mae Mitchell Starc yn cynnig rhywbeth arbennig gyda’r bêl, felly rydyn ni’n edrych ymlaen at gynnig sioe anhygoel i’r cefnogwyr yng Nghaerdydd.”