Gall Kiran Carlson “sefyll allan” yn y byd criced dosbarth cyntaf, yn ôl Mark Wallace, cyfarwyddwr criced Morgannwg.

Daw’r sylwadau ar ôl i’r batiwr 21 oed o Gaerdydd ymestyn ei gytundeb gyda’r sir am ddwy flynedd arall.

Mae’r cytundeb yn ei gadw gyda’r sir tan ddiwedd tymor 2022.

Chwaraeodd e mewn naw gêm i’r tîm cyntaf y tymor diwethaf, gan sgorio canred mewn un sesiwn yn ystod gêm gynta’r Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Northampton.

Mae e wedi taro pedwar canred dosbarth cyntaf, a dau hanner canred mewn gemau undydd i Forgannwg.

Cipiodd e bum wiced am 28 yn ei gêm gyntaf yn y Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Northampton yn 2016, ac fe darodd e 191, ei sgôr gorau erioed, yn erbyn Swydd Gaerloyw yn y Bencampwriaeth ar ddiwedd tymor 2017.

Daeth ei sgôr gorau (58) mewn gêm ugain pelawd yn erbyn Surrey mewn gêm deledu ar yr Oval yn 2018.

Fe hefyd yw’r chwaraewyr ieuengaf yn hanes Morgannwg i daro canred dosbarth cyntaf, gyda sgôr o 119 yn erbyn Essex yn 2016, ac yntau’n 18 oed a 119 diwrnod ar y pryd.

‘Lle hwylus i chwarae criced’

“Dw i wedi cyffroi’n fawr o gael llofnodi cytundeb arall gyda Morgannwg,” meddai Kiran Carlson.

“Dw i wedi bod wrth fy modd yn chwarae yma, mae’r awyrgylch yn yr ystafell newid yn anhygoel ac mae’n lle hwylus i ddod i chwarae criced.

“Dw i hefyd wedi cyffroi o gael bwrw iddi eto a chydweithio â Matt [Maynard, y prif hyfforddwr] a’r staff, a gwneud beth alla i i fwrw ymlaen i sicrhau lle mewn uned fatio gref.”

‘Talent ifanc cyffrous’

“Mae Kiran yn un o’r rhai sydd wedi dod o’n llwybrau ni, ac mae e’n dalent ifanc cyffrous o hyd, felly rydyn ni wrth ein boddau o fod wedi sicrhau ei lofnod e am ddwy flynedd arall,” meddai Mark Wallace, cyfarwyddwr criced Morgannwg.

“Rydyn ni’n gweld cynllun tymor hir o safbwynt Kiran, ac rydym yn edrych ymlaen at ei weld e’n datblygu ochr yn ochr â’i astudiaethau.

“Yn sicr, mae ganddo fe’r gallu i sefyll allan fel chwaraewr mewn criced dosbarth cyntaf.”