Mae Ruaidhri Smith, chwaraewr amryddawn Albanaidd Morgannwg, wedi ymestyn ei gytundeb gyda’r sir tan ddiwedd tymor 2021.

Ac yntau’n 25 oed ac wedi’i fagu yng Nghaerdydd, mae e wedi chwarae mewn 29 o gemau dosbarth cyntaf i Forgannwg, gan gipio 65 wiced.

Cipiodd e wiced Brendan Nash gyda’i belen gyntaf erioed i Forgannwg yn erbyn Swydd Caint.

Daeth ei berfformiad gorau yn y Bencampwriaeth yn erbyn Durham yn 2018, wrth iddo gipio pum wiced am 87.

Er iddo gael ei anafu y tymor diwethaf, fe gipiodd e dair wiced am 21 mewn gêm ugain pelawd yn erbyn Surrey yn y Vitality Blast y tymor diwethaf, gan orffen y gystadleuaeth gyda phum wiced oddi ar 14 pelawd.

Cipodd e bedair wiced am chwech rhediad yn erbyn Middlesex yn Richmond yn 2018 – y ffigurau mwyaf economaidd erioed gan unrhyw fowliwr yn hanes ugain pelawd y sir.

Mae e wedi cynrychioli’r Alban mewn dwy gêm 50 pelawd a dwy gêm ugain pelawd, gan orffen yn bedwerydd ar restr wicedi Cwpan y Byd dan 19 yn 2012.

‘Gwireddu breuddwyd’

“Dw i’n hapus iawn o fod wedi llofnodi [cytundeb] am ddwy flynedd arall gyda Morgannwg,” meddai Ruaidhri Smith.

“Ar ôl tymor rhwystredig gydag anafiadau, ro’n i’n falch o gael dychwelyd yn gryf tuag at ddiwedd yr haf.

“Gobeithio nawr y galla i fanteisio ar y seibiant dros y gaeaf i baratoi’n gorfforol ac i barhau i wella fy ngêm, gan gyfrannu at dymor llwyddiannus i’r tîm.

“Ar ôl cael fy magu yng Nghaerdydd yn cefnogi Morgannwg, roedd hi’n freuddwyd erioed i gael cynrychioli’r sir, a dw i’n edrych ymlaen at wneud hynny dros y tymhorau i ddod.”

Canu clodydd chwaraewr amryddawn

“Mae Ruaidhri wedi dangos ei safon droeon,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.

“Mae e’n gallu bowlio ar gyflymdra da wrth reoli’r bêl, ac mae ei allu gyda’r bat yn golygu bod ganddo fe’r potensial i ddatblygu’n chwaraewr amryddawn go iawn.

“Mae e’n chwaraewr sy’n gallu chwarae mewn sawl fformat, ac rydym wedi cyffroi o’i weld e’n cyrraedd ei botensial gyda’r clwb.”