Marnus Labuschagne, chwaraewr tramor Morgannwg, yw trydydd batiwr gorau’r byd mewn gemau prawf, yn ôl rhestr detholion ddiweddaraf y Cyngor Criced Rhyngwladol (ICC).

Mae’n codi un safle uwchlaw Kane Williamson o Seland Newydd, sy’n gostwng i’r pedwerydd safle – ond mae e wedi codi 107 o lefydd dros gyfnod o flwyddyn.

Dim ond ei gydwladwr Steve Smith a Virat Kohli o India sydd uwchlaw’r gŵr o Awstralia sydd newydd lofnodi cytundeb i aros gyda Morgannwg am y ddau dymor nesaf.

Mae e wedi chwarae mewn 14 o gemau ac mewn 23 batiad, mae e wedi sgorio cyfanswm o 1,459 o rediadau ar gyfartaledd o 63.43 – dim ond Donald Bradman o Awstralia sydd â chyfartaledd uwch (99.94) yn hanes y gêm o blith chwaraewyr sydd wedi batio mwy nag 20 o weithiau.

Daeth ei sgôr uchaf, 215, yn ei gêm ddiwethaf yn erbyn Seland Newydd yn Sydney yng ngêm gyntaf 2020. 

Doedd neb yn y byd wedi sgorio mwy o rediadau na fe yn ystod 2019, wrth iddo fe sgorio cyfanswm o 1104.