Mae’r cricedwr Ben Stokes wedi ennill Personoliaeth Chwaraeon y flwyddyn y BBC eleni.

Roedd y cricedwr wedi cael perfformiadau gwych yn rownd derfynol Cwpan Criced y Byd a thrydydd prawf Lludw. Ymhlith yr enwebeion eraill roedd capten tîm rygbi Cymru Alun Wyn Jones a’r gyrrwr Fformiwla Un Lewis Hamilton.

Wrth dderbyn y wobr, roedd Ben Stokes, 28, wedi diolch i bobol am y gefnogaeth a gafodd yn ystod “dwy flynedd anodd iawn yn fy mywyd.”

Yn 2018, fe’i cafwyd yn ddieuog o achosi ffrwgwd yn dilyn digwyddiad tu allan i glwb nos ym Mryste ym mis Medi 2017.

“Mae fy rheolwr a’n ffrind gwych Neil Fairbrother yma heno. Rwyt ti’n fwy nag asiant, rwyt ti’n ddyn a pherson anhygoel,” meddai.

Roedd ’na wobr Cyfraniad Oes hefyd i’r Farwnes Tanni Grey-Thompson a enillodd 11 medal aur yn y Gemau Paralympaidd rhwng 1992 a 2004.