Cadarnhau lleoliadau cystadlaethau criced dinesig newydd y dynion a’r merche

 

Daeth cadarnhad bellach ym mle fydd rowndiau terfynol cystadlaeuaeth griced ddinesig newydd Can Pelen y dynion a’r merched yn cael eu cynnal y tymor nesaf.

Bydd tîm dynion y Tân Cymreig, y tîm sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, yn ceisio cyrraedd Diwrnod y Ffeinals yn Lord’s, tra bydd tîm y merched yn ceisio cyrraedd y rowndiau terfynol yn Hove.

Bydd diwrnod y merched yn cael ei gynnal ar Awst 14, tra bydd y dynion yn cystadlu’r diwrnod canlynol.

Beth sy’n cael ei gynnig?

Erbyn Diwrnod y Ffeinals, fe fydd y gwaith o ddatblygu cae Lord’s yn Llundain wedi dod i ben, gyda mwy o seddi nag erioed.

Ac fe fydd y cae yn cynnig arlwy o gerddoriaeth a bwydydd amrywiol i geisio apelio at bobol ifanc a theuluoedd – sef prif nod y gystadleuaeth newydd.

“Rydym wrth ein boddau o gael cynnal ffeinal cyntaf Can Pelen y dynion yn Lord’s, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau ei fod yn llwyddiannus,” meddai Guy Lavender, prif weithredwr yr MCC.

“Mae Cartref Criced yn lleoliad gwych ar gyfer ffeinal y gystadleuaeth newydd sbon hon, a fydd yn cynnig y cyfle i’r MCC groesawu llawer iawn mwy o bobol ifanc a theuluoedd i’r cae, gan gynnwys y Pafiliwn, nid yn unig ar gyfer y ffeinal ond hefyd ar draws y gemau grŵp gyda’n tîm ni, London Spirit.”

‘Dau gae â hanes gwych’

“Rydym wrth ein boddau o gael mynd â Ffeinals cynta’r Can Pelen i Lord’s a Hove – dau gae â hanes gwych o gynnal digwyddiadau mawr ym myd criced dynion a merched,” meddai Sanjay Patel, rheolwr gyfarwyddwr y Can Pelen.

“Mae’r Can Pelen yn cynnig cyfle gwych i ni ehangu ein cynulleidfa ar gyfer criced ac mae’n braf gweld ein lleoliadau ar gyfer y Ffeinals yn ymrwymo i gynnig digwyddiadau gwych fis Awst nesaf i gau’r cystadlaethau cyntaf mewn modd cyffrous.

Mae cystadleuaeth y dynion yn dechrau ar gae’r Oval gyda gêm rhwng yr Oval Invincibles a’r Tân Cymreig, tra bo’r merched yn dechrau ar Orffennaf 22.