Mae Marnus Labuschagne, seren tîm criced Awstralia yng nghyfres y Lludw eleni, yn dweud ei fod e “mewn perlewyg” o gael llofnodi cytundeb a fydd yn ei gadw gyda Morgannwg am y ddau dymor nesaf.

Bydd e ar gael ym mhob fformat hyd at ddiwedd tymor 2021, ar ôl tymor llwyddiannus eleni.

Y batiwr amryddawn 25 oed oedd y chwaraewr cyntaf ar draws yr holl siroedd i gyrraedd y garreg filltir o 1,000 o rediadau yn y Bencampwriaeth, gan sgorio 1,114 mewn 18 batiad ar gyfartaledd o fwy na 65.

Tarodd e bum canred, gan gynnwys sgôr uchaf o 182 yn erbyn Sussex, a chanred yn y ddau fatiad yn y gêm yn erbyn Swydd Gaerwrangon – y chwaraewr cyntaf i gyflawni’r nod i Forgannwg ers 2005.

Gyda’r bêl, cipiodd y troellwr coes achlysurol 19 o wicedi.

Cyfres y Lludw

Yn dilyn ei berfformiadau, cafodd ei alw i garfan Awstralia ar gyfer cyfres y Lludw, ac fe greodd e hanes ar gae Lord’s drwy fod yr eilydd cyfergyd cyntaf yn hanes y gêm.

Tarodd e bedwar hanner canred yn olynol yn y gyfres, gan sgorio cyfanswm o 353 o rediadau ar gyfartaledd o fwy na 50 mewn saith batiad, ac fe orffennodd e’n ail ar restr prif sgorwyr Awstralia yn y gyfres.

‘Rhan o rywbeth arbennig’

“Dw i mewn perlewyg llwyr o gael ail-ymuno â Morgannwg a dychwelyd i Gaerdydd am ddwy flynedd arall,” meddai.

“Dw i wrth fy modd yn y ddinas ac yn chwarae i’r clwb.

“Roedd y bois yn anhygoel o’r diwrnod cyntaf, ac ro’n i’n teimlo’n rhan o rywbeth arbennig.

“Roedd y staff hyfforddi’n wych ac roedd Matt [Maynard, y prif hyfforddwr] wir yn deall fy ngêm fel batiwr ac wedi fy helpu i gael y mwyaf allan o ’ngêm.

“Fe wnes i wella tipyn fel batiwr y llynedd o dan ei arweiniad e, a dw i wedi cyffroi o gael gweithio gyda fe eto.

“Ond dw i wedi cyffroi cymaint hefyd o gael gwneud popeth alla i i yrru’r tîm i mewn i’r adran gyntaf [yn y Bencampwriaeth].

“Yn sicr, mae gyda ni’r doniau ymhlith y chwaraewyr a’r staff hyfforddi i gyrraedd y fan honno.

“Dw i am ddiolch i’r chwaraewyr, y staff a’r cefnogwyr am y ffordd y gwnaethon nhw fy nghofleidio yn 2019, ac alla i ddim aros i gael bod yn ôl dros y blynyddoedd nesaf.”

‘Hwb enfawr’

“Mae cael Marnus yn llofnodi cytundeb am ddwy flynedd yn newyddion gwych i bawb sy’n gysylltiedig â’r clwb,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.

“Fe wnaeth e ddangos yn ystod y tymor sirol a’r Lludw gymaint o chwaraewr gwych yw e, ac fe fydd e’n cryfhau ein hadrannau batio a bowlio’n sylweddol ar draws y tri fformat.

“Mae e’n gweithio’n galed dros ben, yn ysgogwr gwych ac yn rhywun sy’n arwain ar y cae ac oddi arno.

“Mae Marnus bob amser yn chwarae â gwên ar ei wyneb, ac mae’n boblogaidd iawn yn y clwb.

“Dw i’n gwybod y byddai e wedi cael cynigion sylweddol i chwarae mewn llefydd eraill, felly mae ei gael e’n dychwelyd i Gymru ar gyfer y ddwy flynedd nesaf yn hwb enfawr i bawb yn y clwb.”