Mae Clwb Criced Morgannwg wedi ymestyn cytundeb Owen Morgan, y Cymro Cymraeg o Bontarddulais.

Daw’r cytundeb ar ddiwedd tymor addawol i’r chwaraewr amryddawn, sy’n gallu agor y batio yn y Bencampwriaeth a’r bowlio yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast.

Chwaraeodd e mewn naw o gemau i’r tîm cyntaf eleni, ac fe ddaeth ei berfformiad gorau yn y gêm ugain pelawd yn erbyn Surrey ar yr Oval, wrth iddo fe ildio dim ond 23 rhediad mewn pedair pelawd yn erbyn batwyr cryf.

“Morgannwg yw’r unig sir dw i wedi bod eisiau chwarae iddi,” meddai.

“Dw i wrth fy modd yn chwarae yma a dw i’n edrych ymlaen at fwrw ati a gweithio’n galed i’r tîm.”

Yn ôl Mark Wallace, mae ganddo fe’r gallu i lwyddo.

“Mae Owen wedi dangos parodrwydd i addasu i ba bynnag rôl sy’n cael ei thaflu ato fe, boed fel bowliwr agoriadol yn y Blast neu fel batiwr agoriadol yn y Bencampwriaeth, ac mae ei allu i ddysgu a chyfatrebu â hyfforddwyr yn ei wneud e’n hawdd iawn i’w hyfforddi,” meddai’r Cyfarwyddwr Criced.

“Rydyn ni’n credu bod ganddo fe’r hyn sydd ei angen i fod yn gyfrannwr cyson.”

Tom Cullen

 Cafodd Tom Cullen, y wicedwr sy’n enedigol o Awstralia, ei gyfle yn y tîm cyntaf yn absenoldeb y capten Chris Cooke eleni.

Fe wnaeth e sawl cyfraniad pwysig gyda’r bat, gan gynnwys y fuddugoliaeth yn Derby, ac fe sgoriodd e dros 300 o rediadau ar gyfartaledd o fwy na 35, gan gynnwys pedwar hanner canred.

Cipiodd e 29 o ddaliadau, sy’n fwy nag unrhyw chwaraewr arall, yn ystod y tymor.

Roedd e hefyd yn gapten ar yr ail dîm wrth iddyn nhw ennill y gystadleuaeth ugain pelawd yn Arundel, ac fe sgoriodd e 41 yn y gêm gyn-derfynol i arwain ei dîm i’r rownd derfynol.

“Rydyn ni wedi gwyrdroi pethau’r tymor hwn ac rydyn ni’n symud i’r cyfeiriad cywir,” meddai.

“Mae cael chwarae rhan yn hynny’n dod â gwir foddhad i fi.

“Dw i jyst eisiau aros yn awchus, parhau i chwarae gemau a chyfrannu at fwy o lwyddiant i’r clwb y flwyddyn nesaf.

“Dyna’r peth pwysig ar ddiwedd y dydd.”

Yn ôl Mark Wallace, mae’r clwb yn awyddus i’w helpu i lwyddo yn y gêm.

“Fe wnaeth Tom nifer o gyfraniadau pwysig yn ystod 2019 gyda’r tîm cyntaf a’r ail dîm, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ei weld e’n parhau i ddatblygu fel cricedwr proffesiynol.

“Mae e’n dechrau deall yr hyn sydd ei angen i gael gyrfa ar y lefel uchaf ac rydyn ni eisiau ei helpu fe i gyrraedd ei botensial.”