Mae 20 o gricedwyr Morgannwg wedi cyflwyno’u henwau ar gyfer y broses o ddewis chwaraewyr ar gyfer y gystadleuaeth ddinesig newydd y tymor nesaf.

Mae’r Tân Cymreig yn un o wyth tîm yng nghystadleuaeth can pelen The Hundred, ond gallai chwaraewyr orfod mynd i unrhyw un o’r timau.

Mae’r tîm a fydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd eisoes wedi dewis Colin Ingram, capten tîm ugain pelawd Morgannwg, ynghyd â’r chwaraewr rhyngwladol o Loegr, Jonny Bairstow, a’r chwaraewr ifanc addawol Tom Banton o Wlad yr Haf.

Mae sawl Cymro wedi cofrestru, sef Connor Brown, Kieran Bull, Kiran Carlson, David Lloyd, Owen Morgan, Andrew Salter, Prem Sisodiya, Callum Taylor a Roman Walker.

Yn cwblhau’r rhestr mae’r capten undydd Chris Cooke, y batiwr ifanc Joe Cooke, y wicedwr wrth gefn Tom Cullen, y bowlwyr cyflym Marchant de Lange a Timm van der Gugten, y chwaraewyr amryddawn Craig Meschede, Ruaidhri Smith, Dan Douthwaite a Graham Wagg, a’r batwyr Billy Root a Nick Selman.

Byddan nhw’n ymuno â rhestr o 570 o chwaraewyr, ochr yn ochr â rhai o sêr mwya’r byd, gan gynnwys nifer o gyn-chwaraewyr tramor Morgannwg fel David Miller a Dale Steyn o Dde Affrica, Shaun Marsh o Awstralia a Fakhar Zaman o Bacistan.

Bydd prisiau’r chwaraewyr yn amrywio o £30,000 i £125,000 gyda’r Tân Cymreig yn bedwerydd i ddewis eu chwaraewyr ym mhob rownd.

Bydd y chwaraewyr yn cael eu dewis ddydd Sul (Hydref 20).

Y broses

Mae gan bob carfan dri chwaraewr hyd yn hyn, yn dilyn y rownd gyntaf ar ddiwrnod lansio’r gystadleuaeth.

Bydd prif hyfforddwr pob tîm yn cael dewis dau chwaraewr ym mhob rownd, a byddan nhw’n cael 100 eiliad i ddewis pob chwaraewr.

Bydd saith rownd i gyd, a bydd y drefn o ddewis yn newid hanner ffordd trwy’r broses, gyda’r Tân Cymreig wedyn yn bumed i ddewis gweddill y garfan.

Bydd pob tîm yn cael dewis uchafswm o dri chwaraewr tramor.

Bydd timau’r merched yn cael eu dewis yr un pryd.