Cipiodd Michael Hogan, bowliwr cyflym Morgannwg, bedair wiced am 31 i Forgannwg ar y diwrnod cyntaf, fel eu bod nhw mewn sefyllfa gref ar ddechrau ail ddiwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Durham yn Chester-le-Street.

Wrth gipio’r wicedi, fe gyrhaeddodd e’r nod o 800 o wicedi yn ei yrfa ar draws yr holl gystadlaethau, ac mae’n golygu bod Durham yn dechrau’r diwrnod ar 197 am chwech.

Tarodd BJ Watling 83 heb fod allan i’r tîm cartref, gyda dim ond Alex Lees (45) yn cyfrannu’n sylweddol fel arall.

Mae Morgannwg yn dal mewn sefyllfa i allu ennill dyrchafiad, ac mae’n ras rhyngddyn nhw, Swydd Gaerloyw a Swydd Northampton, gyda’r ddwy sir hynny’n herio’i gilydd ym Mryste.

Manylion y diwrnod cyntaf

Ar ôl i’r glaw dreiddio i’r llain dros nos, fe fu’n rhaid dechrau’r gêm yn hwyr, ac fe fanteisiodd Morgannwg ar yr amodau o’r dechrau’n deg, wrth i’r ornest orfod cael ei chwarae ar lain wahanol i’r disgwyl.

Gwahoddodd Morgannwg y Saeson i fatio heb dafl, ac fe dalodd y penderfyniad ar ei ganfed yn nhrydedd pelawd y dydd, wrth i Michael Hogan daro coes Cameron Steel o flaen y wiced am un.

Roedden nhw’n 33 am ddwy pan roddodd Angus Robson ddaliad yn y slip i Kraigg Brathwaite oddi ar fowlio Lukas Carey.

Ychwanegodd Alex Lees a BJ Watling 62 am y drydedd wiced y naill ochr a’r llall i amser cinio. Ond daeth y bartneriaeth i ben pan darodd Michael Hogan goes Alex Lees am 45, cyn i BJ Watling fynd yn ei flaen i gyrraedd ei hanner canred oddi ar 90 o belenni.

Ychwanegodd BJ Watling a Jack Burnham 45 am y bedwaredd wiced cyn i Jack Burnham gael ei ddal yn y gyli gan Billy Root oddi ar fowlio’r Cymro David Lloyd am 16. Yn ei gêm gyntaf, cafodd Sol Bell ei fowlio gan Michael Hogan am un i adael Durham yn 143 am bump, ac fe gollodd Durham eu chweched wiced pan darodd yr un bowliwr goes Ned Eckersley o flaen y wiced am saith.

Sgorfwrdd