Mae tîm criced Morgannwg yn teithio i Worcester heddiw ar ddechrau cyfnod allweddol wrth iddyn nhw anelu am ddyrchafiad i adran gynta’r Bencampwriaeth.

Dim ond tair gêm sy’n weddill o’r tymor, ac maen nhw’n bedwerydd yn y tabl, gyda dim ond tair sir yn cael codi o’r ail adran.

Maen nhw bum pwynt y tu ôl i Swydd Northampton, sy’n drydydd ar hyn o bryd.

Hon fydd gêm gyntaf Kraigg Brathwaite, y batiwr agoriadol o Barbados, sydd wedi ymuno â Morgannwg am weddill y tymor yn absenoldeb Shaun Marsh, sydd wedi dychwelyd i Awstralia i baratoi ar gyfer y tymor newydd yn y wlad honno.

Mae Charlie Hemphrey hefyd wedi dychwelyd i Awstralia at dîm Queensland.

Ond un sy’n dychwelyd yw Samit Patel, y chwaraewr amryddawn sydd ar fenthyg o Swydd Nottingham ond a ddychwelodd i’r sir ar gyfer cystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast.

Hefyd wedi’i gynnwys yn y garfan am y tro cyntaf ers mis Mehefin mae Timm van der Gugten, y bowliwr cyflym sy’n cynrychioli’r Iseldiroedd, ac yntau wedi gwella o anaf i’w gefn.

Yn dilyn cyfnod llwyddiannus gyda’r bat yn absenoldeb y capten Chris Cooke, mae Tom Cullen, y wicedwr wrth gefn, wedi’i ddewis fel batiwr ar frig y rhestr.

Sgoriodd e bedwar hanner canred ar gyfartaledd o 44 yn ystod ei gyfnod byr yn y tîm cyntaf tua dechrau’r tymor.

Y gwrthwynebwyr

Mae Hamish Rutherford o Seland Newydd yn debygol o chwarae yn ei gêm Bencampwriaeth gyntaf i Swydd Gaerwrangon ers dychwelyd o ddyletswydd ryngwladol.

Chwaraeodd e mewn un gêm pedwar diwrnod ar ddechrau’r tymor, gan daro 123 yn ei unig fatiad.

Mae Callum Ferguson wedi dychwelyd i Awstralia am resymau personol, tra bod Wayne Parnell (salwch) a Josh Tongue (anaf) hefyd yn absennol, ond mae Charlie Morris ac Adam Finch yn dychwelyd i’r garfan.

Swydd Gaerwrangon: D Mitchell, J Haynes, Moeen Ali, H Rutherford, A Milton, R Wessels, B Cox, E Barnard, Joe Leach (capten), C Morris, A Finch

Morgannwg: C Cooke (capten), K Brathwaite, L Carey, T Cullen, M Hogan, D Lloyd, S Patel, B Root, N Selman, R Smith, T van der Gugten

Sgorfwrdd