Mae Kraigg Brathwaite, y batiwr o ynys Barbados, yn dweud y bydd angen dillad cynnes arno fe ar ôl ymuno â Chlwb Criced Morgannwg am dair gêm Bencampwriaeth ola’r tymor.

Mae’r sir yn mynd am ddyrchafiad i adran gynta’r gystadleuaeth pedwar diwrnod, ac yn teithio i Gaerwrangon yr wythnos hon cyn herio siroedd Caerlŷr yng Nghaerdydd a Durham yn Chester-le-Street.

Maen nhw’n bedwerydd ar hyn o bryd, un safle islaw safleoedd y dyrchafiad, bum pwynt y tu ôl i Swydd Northampton.

Mae’r Awstraliad Shaun Marsh wedi dychwelyd i Orllewin Awstralia i baratoi ar gyfer yr haf yn ei famwlad.

Ers ymddangos yn nhîm prawf India’r Gorllewin yn 19 oed, mae Kraigg Brathwaite, sydd bellach yn 26 oed, wedi taro wyth canred ac 17 hanner canred i’w wlad, gan sgorio 212, ei sgôr gorau erioed, yn erbyn Bangladesh yn 2014.

Agor y batio

Batiwr agoriadol yw Kraigg Brathwaite, sydd wedi chwarae i siroedd Efrog a Nottingham yn y gorffennol.

Mae’n dweud ei fod yn awyddus i ddechrau’r batiad yn gryf ar gyfer gweddill y tîm.

“Dw i’n dod yma i agor, a dw i am osod y seiliau ar gyfer y tîm gorau galla i, a gwneud yn dda.

“Byddai’n dda pe bawn i’n gallu sgorio lot fawr o rediadau a pherfformio’n dda er mwyn helpu Morgannwg i godi i’r adran gyntaf.

“Yn amlwg, mae yna wahaniaeth sylweddol yn y tymheredd, yn sicr. Ond unwaith ewch chi allan i’r oerfel ac i’r awel oer, fe ddewch chi’n gyfarwydd â hynny.

“O ran batio, does dim gwahaniaeth, dim ond fod eich dwylo’n dueddol o deimlo’n oer.

“Fe gaf fi afael ar gynheswyr dwylo a bydda i’n iawn!”

Traddodiad criced yn yr ysgol

Cafodd Kraigg Brathwaite ei addysg yn ysgol Combermere yn Barbados, lle mae nifer o gricedwyr blaenllaw ymhlith ei chyn-ddisgyblion, gan gynnwys Frank Worrell, Clyde Walcott, Wes Hall a dau o sêr Lloegr, Chris Jordan a Jofra Archer.

Ac mae’n ymuno â Chlwb Criced Morgannwg sydd wedi bod yn adnabyddus dros y blynyddoedd am ddenu rhai o chwaraewyr gorau’r Caribî i Gymru, gan gynnwys Viv Richards, Roy Fredericks, Ezra Moseley a Winston Davis.

“Dw i’n gwybod fod Syr Viv wedi chwarae yma, yn sicr,” meddai.

“Des i yma ryw ddeng mlynedd, efallai unarddeg o flynyddoedd, yn ôl gyda thîm ‘A’ India’r Gorllewin ond wnes i ddim chwarae.

“Ond ro’n i’n gwybod fod Gerddi Sophia yn gae hyfryd, a dw i wir yn edrych ymlaen at gael chwarae yma.”

Pam ymuno â Morgannwg?

Yn ôl Kraigg Brathwaite, mae’n cael gwireddu ei freuddwyd o chwarae criced sirol wrth ymuno â Morgannwg.

“Yn ystod y gemau prawf yn erbyn India, dywedodd fy asiant ei fod e’n cysylltu â Morgannwg, felly nid [fy newis] fi oedd e fel y cyfryw,” meddai.

“Ond pan ddaeth e ata’i ynghylch Morgannwg, ro’n i wedi cyffroi ac fe ddywedodd y byddai’n gwneud popeth allai e, felly ro’n i’n ddigon hapus.

“Ychydig ddiwrnodau wedyn, fe ddywedodd e wrtha’i fod yna gynnig yn ei le a dw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn nawr.”

Aeth Kraigg Brathwaite yn syth i’r cae i ymarfer gyda’i gyd-chwaraewyr newydd, ac mae’n dweud ei fod e’n edrych ymlaen at ei gyfnod byr gyda’r sir.

“Dw i’n credu bod gyda ni gyfle da am ddyrchafiad, ond mae’n amlwg yn broses,” meddai.

“Fel batwyr a bowlwyr, rydych chi’n mynd trwy broses o ddechrau’r gêm hyd at y diwedd.

“Dw i’n credu bod gyda ni gyfle gwych ac fe wnawn ni’n iawn os cadwn ni at y cynllun.

“Dw i wedi cwrdd â’r bois ar ôl cael sesiwn ymarfer.

“Mae Matthew Maynard [y prif hyfforddwr] a Mark Wallace [y Cyfarwyddwr Criced] yn bwysig iawn i Forgannwg hefyd, gan eu bod nhw’n fois profiadol.

“Dw i’n edrych ymlaen at yr her, ac at fynd allan a gwneud yn dda i Forgannwg.”