Mae Morgannwg heb fuddugoliaeth yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast o hyd, ar ôl i Sussex eu trechu o saith wiced yng Nghaerdydd.

Sgoriodd y sir Gymreig 174 am bedair yn eu hugain pelawd, wrth i Shaun Marsh (52) a Colin Ingram (50) daro hanner canred yr un. Tarodd Nick Selman 40.

Ond cyrhaeddodd Sussex y nod o 175 yn gyfforddus, gyda 3.1 pelawd yn weddill, ar ôl i’r Awstraliad Alex Carey daro 61 ar frig y batiad i’r ymwelwyr, ac fe sgoriodd Laurie Evans 45 heb fod allan.

Mae’n golygu y bydd Sussex yn chwarae ar eu tomen eu hunain yn rownd yr wyth olaf ar ôl gorffen ar frig y tabl.

Bydd angen i Forgannwg guro Hampshire nos Wener er mwyn osgoi gorffen y gystadleuaeth heb fuddugoliaeth.

Cyfnod clatsio

Ar ôl ennill y dafl a phenderfynu batio, dechreuodd Shaun Marsh a Nick Selman yn gadarn yn erbyn bowlio Ollie Robinson a Jason Behrendorff yn ystod y cyfnod clatsio.

Tarodd Shaun Marsh bedwar oddi ar fowlio Jason Behrendorff yn ystod y belawd gyntaf, cyn i Nick Selman daro tri phedwar oddi ar Ollie Robinson dros ddwy belawd.

Daeth yr ergyd gyntaf am chwech yn ystod y bumed pelawd, wrth i Nick Selman dynnu Jason Behrendorff drwy ochr y goes, cyn ei yrru drwy’r cyfar am bedwar oddi ar y belen ganlynol, a gorffen y belawd drwy yrru’r bêl am chwech arall ar ochr y goes, wrth i’r bowliwr ildio 17.

Pelawd ola’r cyfnod clatsio oedd y fwyaf llwyddiannus i’r ymwelwyr, wrth i Chris Jordan ildio dim ond dau rediad, wrth i Forgannwg gyrraedd 45 heb golli wiced.

Wicedi’n arafu’r sgorio

Parhau i glatsio wnaeth Morgannwg, ond fe ddaeth y bartneriaeth agoriadol allweddol i ben pan yrrodd Nick Selman yn syth at Jason Behrendorff oddi ar fowlio Will Beer am 40, a’r sgôr yn 72 am un ar ôl 9.2 pelawd.

Erbyn diwedd ei fatiad, roedd e wedi taro pum pedwar a dau chwech, ac fe ymunodd y captain Colin Ingram â’r Awstraliad Shaun Marsh wrth y llain.

Dechreuodd y bartneriaeth yn bwyllog, cyn i Shaun Marsh daro pedwar a chwech oddi ar ddwy belen ola’r ddeuddegfed belawd gan Will Beer. Fe gyrhaeddodd ei hanner canred oddi ar 44 o belenni, gan gynnwys pedwar pedwar a dau chwech.

Ond fe gafodd ei ddal wrth dynnu at Delroy Rawlins oddi ar fowlio David Wiese am 52 ar ôl 14.4 pelawd, a’r sgôr erbyn hynny’n 115 am ddwy.

Parhau i frwydro wnaeth y capten Colin Ingram, wrth daro ergyd fwya’r gêm am chwech drwy ochr y goes oddi ar fowlio Ollie Robinson, a Morgannwg yn 133 am ddwy ar ôl 16 pelawd.

Daeth pelawd fawr eto yn yr ail ar bymtheg, wrth i Colin Ingram daro chwech a phedwar oddi ar fowlio Chris Jordan, a Morgannwg yn edrych yn gyfforddus ar 146 am ddwy.

Cyfunodd Ollie Robinson a’r bowliwr Chris Jordan ddwywaith yn y belawd olaf ond un, wrth i’r maeswr ddal y capten Colin Ingram am 50 a David Lloyd am 19, a’r sgôr erbyn hynny’n 164 am bedair.

Bowlio trychinebus

Ar ôl clywed na fyddai Luke Wright yn batio i Sussex oherwydd anaf, agorodd Phil Salt, sy’n enedigol o Fodelwyddan, gyda’r Awstraliad Alex Carey.

Daethon nhw allan gyda’r bwriad o glatsio o’r dechrau’n deg a chafodd bowlwyr Morgannwg fawr o lwyddiant yn ystod y cyfnod clatsio, gyda Marchant de Lange yn ildio 17 rhediad yn ei belawd gyntaf ac 16 yn ei ail.

Cyrhaeddodd Alex Carey ei hanner canred oddi ar 23 o belenni, gan daro naw pedwar a chwech, a Sussex yn 72 heb golli wiced erbyn diwedd y cyfnod clatsio.

Torri’r bartneriaeth, a wicedi yn ofer

Daeth terfyn i’r bartneriaeth pan gafodd Phil Salt ei fowlio gan y troellwr Andrew Salter am 27 yn yr wythfed pelawd, a’r sgôr yn 83.

Ac fe gipiodd e wiced oddi ar belen gynta’i ail belawd hefyd, wrth i Alex Carey gael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke am 61, a’r sgôr yn 96 am ddwy.

Daeth Delroy Rawlins i’r llain, ac fe darodd e chwech enfawr cyn cael ei fowlio gan Andrew Salter, a gipiodd ei drydedd wiced yn y ddeuddegfed belawd.

Daeth ergyd fwya’r gêm yn y bymthegfed belawd, wrth i David Wiese daro chwech enfawr heibio’r bowliwr Ruaidhri Smith ac i gefn yr eisteddle.