Mae Morgannwg yn dal heb fuddugoliaeth yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast, ar ôl colli o 25 o rediadau yn erbyn Gwlad yr Haf yn Taunton.

Doedd tair wiced Marchant de Lange ym mhelawd olaf batiad y Saeson a 62 gyda’r bat i David Lloyd ddim yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth gynta’r sir Gymreig yn y gystadleuaeth.

Serch hynny, roedd rhai arwyddion addawol ar gyfer y dyfodol, wrth i ddau Gymro, y troellwr amryddawn Callum Taylor o Gasnewydd a’r bowliwr cyflym Roman Walker o Wrecsam gael cyfle yn y tîm cyntaf ar ôl i’r ail dîm ennill y gystadleuaeth ugain pelawd yr wythnos ddiwethaf.

Batiad Gwlad yr Haf

Penderfynodd Morgannwg fowlio ar ôl galw’n gywir ac fe gawson nhw eu cosbi gan Babar Azam a Tom Banton o’r dechrau’n deg ar lain artiffisial anarferol.

Cafodd y bowlwyr eu taro i bob rhan o’r cae gan y ddau fatiwr agoriadol yn ystod y cyfnod clatsio, wrth iddyn nhw gyrraedd yr hanner cant oddi ar 28 o belenni.

Gallai Roman Walker fod wedi cipio wiced gyda’i belen gyntaf pe bai Ruaidhri Smith wedi dal ei afael ar y bêl i waredu Tom Banton.

Ond fe gipiodd e’r wiced yn nes ymlaen yn y belawd, wrth i’r wicedwr Chris Cooke sicrhau’r daliad, a’r sgôr yn 61 am un.

Wrth i James Hildreth ddod i’r llain, fe wnaeth e a Babar Azam barhau i roi pwysau ar Forgannwg, wrth i Wlad yr Haf gyrraedd 100 yn y drydedd belawd ar ddeg.

Ond cafodd James Hildreth ei redeg allan gan Colin Ingram yn fuan wedyn, wrth iddo anelu at un ffon.

Parhau i bentyrru’r pwysau wnaeth y Saeson pan ddaeth Babar Azam a’r capten Tom Abell ynghyd, ond fe gafodd Babar Azam ei ddal wrth sgubo pelen gan y troellwr Andrew Salter at Nick Selman.

11 rhediad yn ddiweddarach, cafodd Tom Abell ei ddal yn gampus gan Callum Taylor yn sgwâr ar yr ochr agored oddi ar fowlio Ruaidhri Smith, oedd fel arall yn cael ei daro i bob cyfeiriad.

Wiced ar ôl wiced tua’r diwedd – a thair mewn pelawd

Wrth i’r batiad ddirwyn i ben, cafodd Craig Overton ei ddal wrth yrru pelen syth gan Roman Walker at Colin Ingram, a’r sgôr yn 161 am bump.

Cafodd Eddie Byrom a Tom Lammonby eu bowlio gan Marchant de Lange oddi ar belenni olynol, cyn i Roelof van der Merwe gael ei fowlio oddi ar y belen olaf, a Gwlad yr Haf yn gorffen ar 177 am wyth.

Cipiodd Marchant de Lange dair wiced am 36, tra bod Roman Walker wedi gorffen gyda dwy wiced am 30.

Ymateb Morgannwg

Os oedd bowlio Morgannwg yn llac ar adegau, roedd eu batio’n drychinebus unwaith eto, ac roedden nhw dan bwysau o belawdau cynta’r batiad.

Cafodd Shaun Marsh ei ddal gan James Hildreth yn y slip oddi ar fowlio Jerome Taylor yn yr ail belawd, ac fe gafodd Colin Ingram ei redeg allan oddi ar ymgais wael am sengl yn fuan wedyn gan Tom Abell, a’r sgôr yn chwech am ddwy.

Batiodd Nick Selman a David Lloyd yn gadarn cyn i Nick Selman gael ei ddal gan Max Waller wrth yrru pelen gan y troellwr llaw chwith Roelof van der Merwe i’r ochr agored. Erbyn hynny, roedd Morgannwg yn 50 am dair.

Yn y belawd ganlynol, tarodd Max Waller goes Chris Cooke o flaen y wiced, wrth i Forgannwg lithro i 55 am bedair.

Sgubodd Callum Taylor yn wrthol i daro ergyd i’r ffin oddi ar ei belen gyntaf mewn gêm sirol, cyn cael ei fowlio oddi ar y belen ganlynol gan Max Waller.

Tarodd Jerome Taylor goes Dan Douthwaite o flaen y wiced yn y belawd ganlynol i adael Morgannwg mewn trafferthion ar 64 am chwech ar ôl 10.1 pelawd.

Partneriaeth addawol rhwng Andrew Salter a David Lloyd

Ar ôl i Andrew Salter a David Lloyd ychwanegu 57 am y seithfed wiced, roedd gan Forgannwg lygedyn o obaith, er mor annhebygol oedd hi y bydden nhw’n ennill y gêm.

Gydag wyth pelawd yn weddill, roedd angen 93 ar Forgannwg o hyd, ond fe benderfynodd y batwyr fynd amdani beth bynnag.

Cyrhaeddodd David Lloyd ei hanner canred oddi ar 31 o belenni, cyn taro cyfres o ergydion i’r ffin oddi ar fowlio Tom Lammonby.

Ond fe ddaeth batiad y chwaraewr amryddawn o Wrecsam i ben pan darodd e ergyd ar gam at Tom Abell yn y cyfar oddi ar fowlio Tom Lammonby, a’r sgôr yn 111 am saith.

Dilynodd Ruaidhri Smith yn fuan wedyn, wrth iddo fe gael ei fowlio gan Max Waller, ac roedd angen 58 oddi ar bedair pelawd ar Forgannwg erbyn hynny.

Fe wnaeth Marchant de Lange ac Andrew Salter eu gorau i daro ergydion i’r ffin tua’r diwedd, ond roedd y dasg yn ormod i’r ddau glatsiwr, wrth i Marchant de Lange a Roman Walker ill dau gael eu dal yn mynd am ergydion mawr yn y belawd olaf.