Mae Roman Walker, y bowliwr cyflym o Wrecsam, yn un o chwe Chymro yng ngharfan griced Morgannwg ar gyfer y daith i herio Gwlad yr Haf yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast heno (nos Sadwrn, Awst 25).

Hefyd wedi’u cynnwys mae’r troellwyr llaw chwith Owen Morgan o Bontarddulais a Prem Sisodiya o Gaerdydd, y chwaraewyr amryddawn David Lloyd o Wrecsam a Callum Taylor o Gasnewydd a’r troellwr llaw dde Andrew Salter o Sir Benfro.

Mae Nick Selman, y batiwr sy’n enedigol o Awstralia, wedi’i gynnwys am y tro cyntaf y tymor hwn.

Dydy Roman Walker na Prem Sisodiya ddim wedi chwarae mewn gêm ugain pelawd i Forgannwg o’r blaen.

Mae Morgannwg yn waglaw yn y gystadleuaeth hyd yn hyn.

“Dw i wedi cyffroi o gyrraedd y garfan a gobeithio y bydda i’n chwarae am y tro cyntaf ac yn cael fy enw ar daflen y tîm,” meddai Roman Walker.

“Roedd chwarae mewn gêm T20 yn erbyn yr Iseldiroedd yn brofiad da iawn i fod yn rhan ohono fo.

“Mi wnes i fowlio dwy belawd ar y diwedd ac mi wnes i’n iawn, ond mi wnes i ddysgu dipyn am gyn lleied o le sydd ar gyfer camgymeriadau a gobeithio fedra’i fynd â’r hyn wnes i ddysgu efo fi i mewn i’r gemau sydd i ddod.”

Yr ail dîm yn ennill tlws T20

Roedd Roman Walker yn aelod o’r garfan a gododd dlws ugain pelawd yr ail dîm yn Arundel yn ddiweddar, gan fowlio’r belawd dyngedfennol a llwyddo i osgoi ildio’r wyth rhediad oedd eu hangen ar Hampshire i ennill.

“Ro’n i’n meddwl mai nhw oedd y ffefrynau ar ddechrau’r belawd olaf, efo un dyn ar 51, felly roedd hi’n mynd yn ein herbyn ni.

“Y dyddiau yma yn enwedig, mi fasech chi’n ffafrio’r tîm sy’n batio i gael yr wyth oedd eu hangen.”

Gwlad yr Haf: T Banton, Babar Azam, J Hildreth, T Abell (capten), E Byrom, T Lammonby, R van der Merwe, C Overton, T Groenewald, J Taylor, M Waller

Morgannwg: N Selman, S Marsh, C Ingram (capten), D Lloyd, C Cooke, C Taylor, D Douthwaite, R Smith, A Salter, M de Lange, R Walker

Sgorfwrdd