Gallai Morgannwg golli’r gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerhirfryn yn Llandrillo yn Rhos ar y trydydd diwrnod, ar ôl chwip o fatiad gan Dane Vilas, capten yr ymwelwyr, a darodd 266 ar yr ail ddiwrnod.

Daeth sgôr dosbarth cyntaf gorau erioed y batiwr o Dde Affrica oddi ar 240 o belenni, wrth iddo fe daro 35 pedwar a chwech chwech.

Mae’n golygu bod ganddo fe gyfartaledd o 107 y tymor hwn, ac mae e wedi sgorio 965 o rediadau.

Roedd ei sgôr yn fwy na chyfanswm batiad cyntaf Morgannwg, 257.

Mae gan yr ymwelwyr fantais o 287 erbyn hyn, a byddan nhw’n dechrau’r trydydd diwrnod ar 544 am naw.

Bydd Morgannwg dan bwysau i sicrhau y bydd yn rhaid i’r Saeson fatio eto.

Dechrau da i Forgannwg

Ar ôl dechrau ar 85 am un, collodd Swydd Gaerhirfryn ddwy wiced gynnar wrth i Michael Hogan gipio dwy am bump mewn pum pelawd.

Cafodd Josh Bohannon ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke am chwech, ac fe gafodd Liam Livingstone ei ddal yn y slip gan Shaun Marsh i adael yr ymwelwyr yn 93 am dair.

Ac roedden nhw’n 137 am bedair pan fachodd Glenn Maxwell at Nick Selman, a hwnnw’n sicrhau daliad campus oddi ar fowlio Lukas Carey.

Dechreuodd Morgannwg sesiwn y prynhawn yn gryf hefyd, wrth dorri partneriaeth o 92 rhwng Keaton Jennings a Dane Vilas, pan darodd Graham Wagg goes Keaton Jennings o flaen y wiced am 86, a’r sgôr yn 229 am bump.

Yr ymwelwyr yn brwydro’n ôl

Ond parhau i fatio’n gryf wnaeth y capten Dane Vilas, wrth daro dau chwech i gyrraedd ei ganred oddi ar 101 o belenni, ar ôl taro 13 pedwar a thri chwech. Dyma’r ail waith yn olynol iddo fe sgorio canred mewn gêm Bencampwriaeth, a’i chweched i’r sir.

Cafodd Rob Jones ei redeg allan gan Charlie Hemphrey am 33 yn fuan ar ôl te i ddod â phartneriaeth o 115 gyda’i gapten i ben, a’r sgôr erbyn hynny’n 344 am chwech. Aeth Dane Vilas yn ei flaen i gyrraedd 150 oddi ar 162 o belenni, ar ôl taro ugain pedwar a thri chwech.

Erbyn awr ola’r dydd, roedd Dane Vilas a Danny Lamb eisoes wedi cyrraedd partneriaeth o gant am y seithfed wiced, a blaenoriaeth yr ymwelwyr yn agos i 200.

Toc ar ôl i Dane Vilas gyrraedd ei ganred dwbl, oedd yn cynnwys 26 pedwar a phum chwech, cafodd Danny Lamb ei fowlio gan Graham Wagg am 49, a’r sgôr yn 455 am saith wrth i bartneriaeth o 111 ddod i ben.

Cafodd Tom Bailey ei stympio gan Chris Cooke am bedwar, wrth i Samit Patel gipio’i wiced gyntaf i’r sir, a’r sgôr yn 484 am wyth.

Cyrhaeddodd Dane Vilas 250 wrth i Swydd Gaerhirfryn gyrraedd 500 i roi blaenoriaeth swmpus iddyn nhw. Ond cafodd ei fowlio yn y pen draw gan David Lloyd am 266, a’r sgôr erbyn hynny’n 539 am naw.

Sgorfwrdd