Mae Ottis Gibson, y cyn-chwaraewr amryddawn o India’r Gorllewin a chwaraeodd i Forgannwg o 1994 i 1996, yn awyddus i fod yn brif hyfforddwr nesaf tîm Lloegr.

Fe fydd Trevor Bayliss, y prif hyfforddwr presennol, yn rhoi’r gorau i’w swydd ar ddiwedd Cyfres y Lludw, sy’n cael ei chynnal ar hyn o bryd.

Mae e wedi treulio dau gyfnod yn hyfforddwr bowlwyr cyflym Lloegr yn y gorffennol, ac fe ddaeth ei swydd yn brif hyfforddwr De Affrica i ben ddechrau’r mis hwn yn dilyn Cwpan y Byd siomedig yng Nghymru a Lloegr.

‘Fe gawn ni weld’

“Mae unrhyw beth yn bosib,” meddai Ottis Gibson wrth BBC Radio 5 Live.

“Ar hyn o bryd, dw i’n cymryd ychydig o amser allan, yn treulio amser gyda’r teulu a chawn ni weld beth fydd yn datblygu ar ôl hynny.

“Dw i’n byw yn Lloegr felly mae’n braf cael dod adref ac ymlacio gyda’r teulu am ychydig, gwylio ychydig o griced, a dal i fyny gyda rhai o’r bois.

“Dw i’n dal yn ffrindiau gyda llawer o’r bois yn y tîm, ro’n i’n chwarae golff gyda nhw’r wythnos ddiwethaf, felly cawn ni weld.

“Gobeithio y bydd yna sgwrs gydag Ashley Giles [Cyfarwyddwr Criced Lloegr] rywbryd ar ôl y Lludw, a chawn ni weld beth fydd yn datblygu o’r fan honno.”