Mae Samit Patel, cyn-chwaraewr amryddawn Lloegr, wedi ymuno â Morgannwg ar fenthyg o Swydd Nottingham ar gyfer pedair gêm ola’r Bencampwriaeth y tymor hwn.

Fe fydd e’n ymuno ar unwaith, ac ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Swydd Gaerhirfryn yn Llandrillo yn Rhos.

Bydd e’n dal ar gael i Swydd Nottingham mewn gemau ugain pelawd yn y Vitality Blast, ac fe fydd modd ei alw’n ei ôl ar unrhyw adeg.

Mae’r chwaraewr 34 wedi sgorio 12,295 o rediadau dosbarth cyntaf yn ystod ei yrfa, a hynny ar gyfartaledd o 36, gan gynnwys 26 canred.

Fel troellwr llaw chwith, mae e wedi cipio 332 o wicedi dosbarth cyntaf.

Mae e wedi chwarae dros Loegr 60 o weithiau, gan gynnwys chwe gêm brawf, ond dydy e ddim wedi chwarae ar y llwyfan rhyngwladol ers pedair blynedd.

Morgannwg wedi creu argraff

Wrth ymuno â’r sir, mae Samit Patel yn pwysleisio bod ymgyrch Morgannwg yn y Bencampwriaeth wedi creu argraff arno fe, wrth iddyn nhw barhau yn yr ail safle yn yr ail adran wrth geisio dyrchafiad.

“Dw i’n edrych ymlaen yn fawr at yr her ac alla i ddim aros i weithio â Matt Maynard a’i dîm,” meddai.

“Mae’r ffordd mae Morgannwg wedi perfformio eleni yn y Bencampwriaeth wir wedi creu argraff arna i.

“Gobeithio y galla i berfformio’n gryf i’r tîm a’u helpu nhw i ennill dyrchafiad i’r adran gyntaf.”

‘Llawer o brofiad’

“Rydym wrth ein boddau o fod wedi dod â Samit i mewn ar fenthyg am weddill y tymor,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.

“Mae e’n dod â llawer o brofiad i’r garfan a allai fod yn hanfodol wrth gyrraedd rhan bwysig y gystadleuaeth.

“Mae Samit yn fatiwr godidog sydd wedi cael batiadau sydd wedi ennill gemau drwy gydol ei yrfa, a gyda Kieran Bull yn ceisio dychwelyd ar ôl anaf a Marnus Labuschagne i ffwrdd gydag Awstralia, mae hefyd yn rhoi opsiwn arall i ni o safbwynt y troellwyr.”