Fe ddaeth y glaw i Gaergaint neithiwr (nos Fercher, Awst 14) i atal y gêm ugain pelawd rhwng Caint a Morgannwg yn y Vitality Blast rhag cael ei chynnal.

Cafodd y ddwy sir bwynt yr un, sy’n golygu bod Morgannwg yn aros ar waelod y tabl, tra bod gan Gaint obaith o hyd o gyrraedd rownd yr wyth olaf.

Roedd glaw cyson yn ystod y dydd, ac fe benderfynodd y dyfarnwyr Jeremy Lloyds a Ben Debenham am 8 o’r gloch na fyddai’n bosib dechrau’r gêm.

Taith i Essex sydd gan Forgannwg nos Wener, wrth iddyn nhw barhau i chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf yn y gystadleuaeth.

Diwrnod y Ffeinals – i’r ail dîm

Tra bod y tîm cyntaf allan o’r gystadleuaeth i bob pwrpas, fe fydd ail dîm Morgannwg yn cystadlu yn Niwrnod y Ffeinals yn Arundel heddiw (dydd Iau, Awst 15).

Maen nhw wedi ennill wyth allan o 12 o gemau hyd yn hyn, a byddan nhw’n herio Swydd Nottingham yn y rownd gyn-derfynol.

Bydd y gêm yn dechrau am 10.30yb.

Mae Morgannwg wedi defnyddio 29 o chwaraewyr hyd yn hyn yn y gystadleuaeth.

Carfan Morgannwg: J Cooke, N Selman, J Lawlor, B Root, O Morgan, C Hemphrey, C Brown, T Cullen, R Walker, P Sisodiya, K Szymanski, A Horton, S Reingold