Fe fydd Fakhar Zaman, batiwr tramor Morgannwg, yn chwarae i dîm Glasgow mewn cystadleuaeth ugain pelawd newydd a fydd yn cael ei chynnal ddiwedd mis Awst a mis Medi.

Fe fydd y tîm hwnnw’n cael ei arwain gan un arall o sêr tramor Morgannwg y gorffennol, Brendon McCullum o Seland Newydd, a hefyd yn serennu cyn-fowliwr cyflym tramor y sir, Dale Steyn o Dde Affrica.

Mae’r Euro T20 Slam yn cael ei hystyried yn gystadleuaeth a allai roi hwb i griced yn Iwerddon, yr Alban a’r Iseldiroedd.

Mae’n rhan o’r gylchdaith o gystadlaethau sy’n cael eu cynnal mewn gwledydd sy’n chwarae o dan faner y Cyngor Criced Rhyngwladol (ICC), gan roi cyfle i chwaraewyr lleol chwarae ochr yn ochr â rhai o sêr y byd.

Eoin Morgan, y Gwyddel sy’n gapten ar dîm Lloegr, fydd yn arwain tîm Dulyn yn y gystadleuaeth sy’n cynnwys 33 o gemau rhwng Awst 30 a Medi 22.

Bydd timau o Amsterdam, Belffast, Dulyn, Caeredin, Glasgow a Rotterdam yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth, a gemau’n cael eu cynnal yn Nulyn, Amsterdam a Chaeredin.

Mae gan bob tîm ddau o sêr rhyngwladol, pum chwaraewr rhyngwladol arall a naw chwaraewr lleol.

Y prif chwaraewyr

Babar Azam o Bacistan yw prif chwaraewr Dulyn, ynghyd â’i gydwladwr Mohammad Amir a’r Sais Harry Gurney.

Shane Watson o Awstralia ac Imran Tahir o Dde Affrica yw dau brif chwaraewr Amsterdam, tra bod Rotterdam wedi arwyddo Rashid Khan, capten Affganistan, a Luke Ronchi sydd wedi cynrychioli Awstralia a Seland Newydd.

Shahid Afridi o Bacistan a JP Duminy o Dde Affrica yw prif chwaraewyr Belffast, ynghyd â’r Sais Luke Wright, tra bod gan Gaeredin Martin Guptill o Seland Newydd a’r Awstraliad Chris Lynn.

Bydd yr Awstraliad Ben Cutting yn chwarae i Amsterdam, a Ravi Bopara, y Sais, yn chwarae i Glasgow.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei darlledu yn India, Iwerddon a gwledydd Prydain y flwyddyn nesaf.