Mae Middlesex wedi rhoi crasfa i Forgannwg, wrth i’r sir Gymreig golli’r gêm Bencampwriaeth yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd o 256 o rediadau.

Dyma’r tro cyntaf i Forgannwg golli gêm Bencampwriaeth y tymor hwn.

Ar ôl dechrau’r diwrnod olaf ar 171 am chwech,wrth gwrso’r nod annhebygol o 556 i ennill, parodd Charlie Hemphrey a Graham Wagg ychydig yn llai nag awr wrth adeiladu partneriaeth o 62 am y seithfed wiced.

Daeth y bartneriaeth i ben pan gafodd Charlie Hemphrey ei ddal gan y wicedwr John Simpson oddi ar fowlio Toby Roland-Jones am 72, a’r sgôr yn 225 am saith.

Ar ôl i Marchant de Lange daro dau chwech a thri phedwar mewn pelawd yn ystod partneriaeth o 25, cafodd ei bartner Graham Wagg ei ddal yn y slip gan Dawid Malan oddi ar fowlio Toby Roland-Jones am 40, a’r sgôr yn 250 am wyth.

Cafodd Lukas Carey ei fowlio gan Toby Roland-Jones am saith i adael Morgannwg yn 264 am naw.

Ychwanegodd Michael Hogan a Marchant de Lange 35 am y wiced olaf, cyn i Michael Hogan yrru at George Scott ar yr ochr agored oddi ar fowlio Toby Roland-Jones, a orffennodd gyda deg wiced yn y gêm.

Gweddill y gêm

Ar ôl galw’n gywir a batio, sgoriodd Middlesex 384 yn eu batiad cyntaf ar ôl i’r capten Dawid Malan sgorio 166, ei bedwerydd canred dosbarth cyntaf y tymor hwn, a’i drydydd sgôr dros 150.

Roedd hanner canred yr un hefyd i Nathan Sowter (57 heb fod allan) a Toby Roland-Jones (54), wrth i Lukas Carey gipio pedair wiced am 54, a Michael Hogan tair wiced am 75.

Cafodd Morgannwg eu bowlio allan am 171 yn eu batiad cyntaf, a dim ond David Lloyd (67) a lwyddodd i sgorio dros hanner cant, wrth i Tom Helm gipio pum wiced am 53.

Roedd pedair wiced hefyd i Toby Roland-Jones am 45.

Sgoriodd Middlesex 342 yn eu hail fatiad wrth i Sam Robson sgorio 140 heb fod allan wrth gario’i fat, a sgoriodd y wicedwr John Simpson 56, wrth i’r ymwelwyr osod nod o 556 i Forgannwg.