Mae Jonathan Edwards yn galw am sefydlu tîm criced i Gymru erbyn tymor nesaf, ar ôl i Loegr ennill Cwpan y Byd ddoe (dydd Sul, Gorffennaf 15).

Ar hyn o bryd, mae Cymru yn dod o dan faner Lloegr ar y llwyfan rhyngwladol, gyda thîm sirol Morgannwg yn un o siroedd Bwrdd Criced Cymru a Lloegr.

Ond ‘Lloegr’ yw enw’r tîm cenedlaethol, sy’n chwarae o dan faner San Siôr a ‘God Save The Queen’ yw’r anthem sy’n cael ei chwarae cyn gemau.

Fe fu cryn drafod ar y mater yn y gorffennol, gyda sawl ymgyrch a deiseb yn cael ei chyflwyno i’r Cynulliad ym Mae Caerdydd.

Gobaith Plaid Cymru yw gweld tîm Cymru’n cael ei sefydlu ar gyfer tymor 2020, sy’n dechrau fis Ebrill nesaf.

Ac mae Jonathan Edwards yn pwysleisio mai Cymru yw’r unig wlad Brydeinig nad yw’n cystadlu ar y llwyfan rhyngwladol o dan ei henw ei hun.

‘Colli cyfle’

Ar hyn o bryd, mae gan Iwerddon statws prawf llawn, ac mae gan yr Alban statws gemau undydd.

“Yr anrhydedd fwyaf mewn unrhyw gamp yw chwarae i’ch tîm cenedlaethol – ac mae chwaraewyr criced o Gymru’n cael eu hamddifadu o’r cyfle hwnnw,” meddai.

“Mewn gwirionedd, cricedwyr o Gymru yw’r unig bobol ar Ynysoedd Prydain sy’n cael eu hamddifadu o’r cyfle hwn.

“Mae timau cenedlaethol yr Alban ac Iwerddon wedi’u hen sefydlu gyda statws prawf llawn ond eto, pan ddaw i griced yng Nghymru, mae’n dal yn fater o ‘for Wales, see England’.”

Yn ôl Jonathan Edwards, byddai sefydlu tîm Cymru’n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o gricedwyr yng Nghymru.

“Un o’r arfau mwyaf pwerus ar gyfer annog criced ieuenctid yng Nghymru fyddai cael tîm criced cenedlaethol y gallai pobol ifanc ar hyd a lled y wlad anelu i’w gynrychioli a dod o hyd i arwyr ynddo.

“Dros y blynyddoedd diwethaf, mae eiliadau o hud a lledrith chwaraeon wedi dod â Chymru ynghyd fel cenedl. Pam na allwn ni ychwanegu criced at yr eiliadau hynny o ddathlu cenedlaethol y mae chwaraeon yn eu creu?

“Mae gennym ni dîm rygbi, tîm pêl-droed, tîm pêl-fasged, a hyd yn oed tîm lacrosse Cymru.

“Yn y byd criced, fodd bynng, rydym yn dal yn cael ein cwmpasu gan Loegr. Does bosib fod hynny’n iawn.”