Mae Clwb Criced Morgannwg yn pwyso a mesur eu hopsiynau ar ôl i’r batiwr tramor Shaun Marsh dorri ei fraich wrth ymarfer gydag Awstralia yng Nghwpan y Byd.

Roedd e’n ymarfer yn y rhwydi cyn y gêm yn erbyn De Affrica yn Old Trafford ym Manceinion pan gafodd ei daro gan bêl.

Fydd y batiwr llaw chwith ddim ar gael ar gyfer rowndiau ola’r gystadleuaeth, ond mae’r sir Gymreig yn gobeithio y gallai fod ar gael am ran o gystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast ac ail hanner ymgyrch y Bencampwriaeth.

Hyd yn oed cyn yr anaf, roedd Morgannwg yn wynebu’r posibilrwydd o’i golli wrth i Awstralia herio Lloegr yng Nghyfres y Lludw, sy’n dechrau ar Awst 1.

‘Newyddion ofnadwy’

“Mae’n newyddion ofnadwy i Shaun golli rowndiau olaf Cwpan y Byd, ac rydym yn dymuno gwellhad buan iddo fe,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.

“Byddwn yn parhau i fonitro sefyllfa Shaun yn agos dros y dyddiau i ddod, ond rydym yn dal yn gobeithio y bydd e’n gallu chwarae rhan yn ein hymgyrch yn y Vitality Blast ac wrth i ni wthio am ddyrchafiad ym Mhencampwriaeth y Siroedd.”

Ac yn dilyn y newyddion na fydd ei frawd, Mitchell Marsh, ar gael ar gyfer pedair gêm gyntaf Morgannwg yn y Vitality Blast oherwydd ymrwymiadau rhyngwladol gyda thîm ‘A’ Awstralia, mae’n bosib y bydd yn rhaid i’r sir geisio denu chwaraewr arall.

Un opsiwn yw ymestyn cyfnod Marnus Labuschagne gyda’r sir, ar ôl iddo fod yn chwarae yn lle Shaun Marsh yn ystod hanner cynta’r tymor, gan sgorio dros 1,000 o rediadau yn y Bencampwriaeth.

Mae ei berfformiadau wedi arwain at dderbyn cap y sir, ac enwebiad ar gyfer gwobr Chwaraewr y Mis Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol ar gyfer mis Mehefin.

Sgoriodd e 324 o rediadau yn ystod y mis, ar gyfartaledd o 54, ac fe gipiodd e saith wiced fel troellwr coes.

Mae e wedi datgan yn ddiweddar ei fod e’n mwynhau bywyd yng Nghymru a chwarae i’r sir.

Usman Khawaja

Yn y cyfamser, mae Usman Khawaja, a dreuliodd gyfnod gyda Morgannwg y tymor diwethaf, allan o’r gystadleuaeth ar ôl anafu llinyn y gâr yn y gêm yn erbyn De Affrica ddoe (dydd Sadwrn, Gorffennaf 6).

Fe fydd Awstralia yn herio Lloegr ddydd Mawrth (Gorffennaf 9), ac mae disgwyl i Awstralia alw Matthew Wade i’r garfan yn ei le.

“Mae’n drueni mawr i [Usman Khawaja], sydd wedi bod mor hanfodol i’r ffordd rydyn ni wedi bod yn chwarae,” meddai Justin Langer, prif hyfforddwr Awstralia.

“Fel Shaun [Marsh], dw i’n drist drosto fe y bydd e’n colli gêm gyn-derfynol Cwpan y Byd.”

Pe baen nhw’n curo Lloegr, bydd Awstralia’n herio naill ai India neu Seland Newydd yn y rownd derfynol yn Lord’s ddydd Sul nesaf (Gorffennaf 14).