Dylai Morgannwg gipio pwyntiau batio llawn ar ail ddiwrnod eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerwrangon yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd.

Sgoriodd Marnus Labuschagne 106, ei bedwerydd canred dosbarth cyntaf y tymor hwn, wrth i Forgannwg orffen y diwrnod cyntaf ar 354 am chwech.

Dim ond 62 o rediadau sydd eu hangen arno fe erbyn hyn i gyrraedd 1,000 o rediadau dosbarth cyntaf y tymor hwn, wrth iddo fe hefyd daro pedwar hanner canred yn ystod ei gyfnod byr gyda Morgannwg.

Sgoriodd David Lloyd, y capten dros dro, 97 i helpu ei dîm i gryfhau eu gafael ar y gêm ac ar frig yr ail adran, wrth iddyn nhw fynd am ddyrchafiad i’r adran gyntaf.

Manylion y diwrnod cyntaf

Ar ôl penderfynu bowlio, cafodd bowlwyr yr ymwelwyr eu cosbi o’r dechrau’n deg wrth i Nick Selman ac Owen Morgan adeiladu partneriaeth o 80 am y wiced gyntaf.

Ond fe ddaeth i ben pan gafodd Owen Morgan ei ddal yn y slip gan Rikki Wessels oddi ar fowlio Harry Finch am 28 toc cyn cinio.

Ychwanegodd Marnus Labuschagne a Nick Selman 75 am yr ail wiced cyn i Nick Selman golli ei wiced yn yr un modd â’i bartner agoriadol, ond oddi ar fowlio Ed Barnard am 67, ei bedwerydd hanner canred y tymor hwn.

Wiced ar ôl wiced

Aeth Marnus Labuschagne yn ei flaen i sgorio 106 oddi ar 139 o belenni, gan gynnwys un chwech ac 13 pedwar, cyn i’r troellwr coes Brett D’Oliveira ei ddal oddi ar ei fowlio’i hun.

Dyma’i wiced gyntaf o dair am un rhediad mewn naw pelen, wrth i David Lloyd wylio o’r pen arall i’r llain ar ôl ychwanegu 138 am y drydedd wiced.

Cafodd Billy Root ei fowlio ganddo heb sgorio, cyn i’r bowliwr daro coes Dan Douthwaite o flaen y wiced heb ei fod e wedi sgorio, a’r sgôr erbyn hynny’n 295 am bump.

Adeiladodd David Lloyd a Tom Cullen bartneriaeth o 51 am y chweched wiced, cyn i’r capten gael ei ddal yn y cyfar gan Rikki Wessels oddi ar belawd olaf ond un y diwrnod, wrth i Brett D’Oliveira orffen gyda phedair wiced am 63 mewn ugain pelawd.

Mae Tom Cullen yn ddiguro ar 26, ac mae Graham Wagg wedi ymuno â fe.

Sgorfwrdd