Mae Tom Cullen, wicedwr tîm criced Morgannwg, yn awyddus i roi “pen tost” i’r dewiswyr pan fydd y prif wicedwr a’r capten Chris Cooke yn dychwelyd o anaf i gyhyrau ei ffêr ymhen ychydig wythnosau.

Tarodd y wicedwr wrth gefn 51 heb fod allan i ennill yr ornest yn Derby fis diwethaf, cyn mynd yn ei flaen i sgorio 63 yn erbyn Swydd Northampton, a 50 yn erbyn Middlesex yr wythnos ddiwethaf.

“Dw i’n eitha’ balch o fod wedi cael cyfle i gyfrannu at fuddugoliaeth dda iawn yn Derby ond hefyd, ar ben hynny, at fuddugoliaeth dda oddi cartref yn Northampton,” meddai.

“Mae’n un peth i gael cyfle, ond peth arall yw bachu ar y cyfle hwnnw.

“Ro’n i jyst yn falch o gael gwneud hynny, a ’mod i wedi dangos i nifer o bobol yr hyn alla i ei gyfrannu i’r clwb.

“Mae Chris [Cooke] yn chwaraewr gwych, ac mae e wedi bod yn wych i Forgannwg ers sawl tymor bellach.

“Ry’n ni’n amlwg eisiau iddo fe fod yn holliach cyn gynted â phosib, ond os galla i roi pen tost i’r dewiswyr, mae hynny’n beth da i’r clwb.

“Ond os ydw i’n methu, fi yw’r rhif dau yn y clwb, ac fe wna i gyfrannu hyd eitha’ fy ngallu, ym mha bynnag ffordd y galla i.”

Chwarae fel batiwr?

Hyd yn oed ar ôl i Chris Cooke ddychwelyd i’r tîm fel wicedwr, dydy Tom Cullen ddim yn credu ei bod yn gwbl amhosib y gallai gael ei ddewis fel batiwr yn unig.

“Dw i’n sicr y gallai fod yn opsiwn, ond dw i ddim am roi’r cart o flaen y ceffyl.

“Pan fydd e’n holliach eto, penderfyniad i’r rheolwyr fydd hynny.

“Yr unig beth alla i ei wneud yw parhau i berfformio a chyfrannu i’r perfformiadau ar y cae, sydd wedi bod yn eitha’ positif.”

Gweddnewid llwyddiant y tîm

Matthew Maynard, y prif hyfforddwr newydd, a Mark Wallace, y Cyfarwyddwr Criced newydd, sy’n bennaf gyfrifol am bositifrwydd y tîm y tymor hwn, meddai.

“Roedd Matt a Mark yn benderfynol fod angen i ni fod yn fwy anodd i’n curo fel tîm ac fel clwb, a bod angen i ni newid nifer o agweddau o gwmpas y siroedd ynghylch pwy ydyn ni, o’i gymharu â phwy oedden ni’n arfer bod.

“Dyna, am wn i, yw’r peth sydd wedi achosi’r balchder mwyaf, sef ein bod ni’n ddi-guro, ac rydym am fod yn ddi-guro mor hir ag y gallwn ni fod.”

Ond mae hefyd yn dweud bod ychwanegiadau i’r tîm o ran y chwaraewyr wedi helpu, gyda Billy Root, Charlie Hemphrey a Marnus Labuschagne i gyd wedi cyfrannu gyda’r bat.

“Mae gyda ni ychwanegiadau gwych i’r tîm, ac maen nhw wedi dod i mewn a gwneud yn arbennig o dda.

“Ond o ran agwedd, mae Mark a Matt wedi dod â newidiadau o ran hynny, ac wedi dod ag agwedd lawer mwy positif i’r chwaraewyr, ac wedi rhoi gwedd bositif iawn ar sut i chwarae criced.”

Cynrychioli Cymru

Ac yntau’n enedigol o Awstralia ond wedi bod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, mae Tom Cullen yn deall pwysigrwydd Morgannwg fel yr unig sir o Gymru ymhlith 17 o siroedd Saesneg.

“Mae Morgannwg yn amlwg yn glwb mawr yng Nghymru a’r un yw ein harwyddair ni, sef ein bod ni am Wneud Cymru’n Falch, ac ry’n ni’n amlwg am wneud ein cefnogwyr ni’n falch hefyd.”

Bydd y balchder hwnnw’n bwysig i Forgannwg wrth iddyn nhw deithio i Swydd Gaerloyw yfory (dydd Sul, Mehefin 23) ar gyfer yr ornest yn ail adran y Bencampwriaeth.

“Ry’n ni’n amlwg yn eu hadnabod nhw’n dda,” meddai.

“Ry’n ni wedi chwarae dipyn yn eu herbyn nhw, ac ry’n ni’n gwybod pa mor dda maen nhw’n gallu bod.

“Awn ni i mewn i’r gêm honno fel pob gêm arall dros y bum neu chwe gêm ddiwethaf, eu herio nhw, chwarae criced yn galed a gobeithio y bydd yn anodd i’n curo ni.

“Gobeithio y gallwn ni adeiladu mantais yn y gêm a chael canlyniad positif ar drothwy’r tair gêm olaf cyn y T20.”

Carfan Morgannwg: D Lloyd (capten), N Selman, M Labuschagne, C Hemphrey, B Root, M de Lange, T Cullen, L Carey, G Wagg, M Hogan, O Morgan, D Douthwaite, T van der Gugten