Fe ddaeth gêm Bencampwriaeth Morgannwg yn erbyn Middlesex i ben yn gyfartal yn Radlett yn dilyn cyfnod hir o law ar y diwrnod olaf.

Roedd gan y Saeson flaenoriaeth o 247 pan ddaeth y glaw gyda 58 o belawdau’n weddill yn y dydd yn y gêm pedwar diwrnod gyntaf erioed ar y cae yn Swydd Hertford.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Morgannwg yn parhau’n ddi-guro ac yn aros yn safleoedd y dyrchafiad hanner ffordd drwy’r ymgyrch, a bod Middlesex wedi ennill un gêm yn unig allan o saith.

Roedd Morgannwg yn 274 am naw ac yn cwrso pwynt batio ychwanegol, ond daeth eu batiad i ben ar 288, wrth i Graham Wagg gael ei ddal gan Nick Gubbins oddi ar fownsar gan Tom Helm am 48.

Batio amddiffynnol gan Middlesex

Ond ar ddechrau batiad Middlesex, fe ddechreuon nhw mewn modd amddiffynnol ar ôl adeiladu mantais o 122 o rediadau.

Serch hynny, cafodd y capten Stevie Eskinazi ei ddal yn safle’r pwynt gan Marnus Labuschagne oddi ar fowlio Timm van der Gugten am 13, cyn i’r maeswr hwnnw gipio’r wiced nesaf i waredu Sam Robson, a gafodd ei ddal gan Charlie Hemphrey am 36.

Tarodd Nick Gubbins bedwar pedwar a chwech cyn i Marnus Labuschagne daro’i goes o flaen y wiced i orffen gyda dwy wiced am 25.

Sgoriodd Dawid Malan 18 cyn cael ei ddal gan y wicedwr Tom Cullen oddi ar Marchant de Lange yn yr ail waith yn y gêm ac erbyn hynny, roedd y Saeson yn 111 am bedair.

Ond daeth y glaw am 2.15 a doedd dim modd chwarae eto.

Gweddill y gêm

Tarodd Sam Robson (107) a Paul Stirling (138) ganred yr un yn y batiad cyntaf, wrth i Middlesex sgorio 410 cyn cael eu bowlio allan, a Marchant de Lange a Marnus Labuschagne yn cipio tair wiced yr un.

Dyma sgôr gorau erioed Paul Stirling yn y Bencampwriaeth, a sgôr gorau Sam Robson y tymor hwn.

Ymatebodd Morgannwg gyda 288 yn eu batiad cyntaf, wrth i’r capten David Lloyd (59), Marnus Labuschagne (51) a Tom Cullen (50) daro canred yr un.

Cipiodd y bowliwr cyflym Steven Finn bum wiced am 75 yn y batiad.