Mae tîm criced Morgannwg yn teithio i Radlett heddiw (dydd Sul, Mehefin 16) ar gyfer eu gêm Bencampwriaeth gyntaf erioed ar y cae hwnnw.

Mae Morgannwg yn ail yn yr ail adran ar ôl parhau â’u hymgyrch ddi-guro gyda gêm gyfartal ddi-ganlyniad yn erbyn Swydd Derby yn Abertawe ddiwedd yr wythnos.

Mae Marnus Labuschagne ar frig sgorwyr rhediadau’r ddwy adran gyda’i gilydd, gyda 653, a Billy Root yn ail gyda 517.

Mae Middlesex tua gwaelod y tabl gydag un fuddugoliaeth yn unig yn eu chwe gêm hyd yn hyn.

Gemau’r gorffennol

Effeithiodd y glaw yn sylweddol ar yr ornest gyfatebol y tymor diwethaf, gyda dim ond 15.5 o belawdau o fatiad Morgannwg yn bosib, ar ôl iddyn nhw fowlio Middlesex allan am 194.

Cipiodd Timm van der Gugten bedair wiced yn y gêm honno yn Lord’s, ac fe gipiodd e bedair wiced arall mewn gêm ugain pelawd yn Radlett, wrth i Ruaidhri Smith hefyd gipio pedair wiced.

Enillodd Middlesex o 16 o rediadau mewn gêm Restr A ar y cae yn 2017.

Ar wahân i 46 o gemau rhwng y ddwy sir yn Lord’s yn y Bencampwriaeth, cafodd dwy eu cynnal yn y gorffennol yn Southgate.

Mae wyth o gemau Rhestr A wedi’u cynnal yno yn y gorffennol.

Y timau

Mae Morgannwg yn parhau i gylchdroi’r bowlwyr cyflym, wrth i Michael Hogan orffwys.

Daw Marchant de Lange a Timm van der Gugten yn eu holau i’r garfan.

Mae Chris Cooke yn parhau i wella o anaf i’w goes, ac yn gobeithio dychwelyd ymhen pythefnos.

Mae’r Cymro James Harris wedi torri ei fys bawd ac felly fydd e ddim ar gael i Middlesex, sy’n cynnwys Tom Helm, sydd wedi treulio cyfnodau ar fenthyg gyda Morgannwg dros y tymhorau diwethaf.

Carfan Middlesex: D Malan (capten), S Eskinazi, S Finn, N Gubbins, N Helm, M Holden, T Murtagh, S Robson, T Roland-Jones, G Scott, J Simpson, N Sowter, P Stirling

Carfan Morgannwg:  D Lloyd (capten), N Selman, C Hemphrey, M Labuschagne, B Root, O Morgan, T Cullen, D Douthwaite, G Wagg, M de Lange, L Carey, T van der Gugten

Sgorfwrdd