Mae Jack Murphy, batiwr 23 oed Clwb Criced Morgannwg, wedi ymddeol o’r gêm oherwydd anaf i’w ben-glin.

Bu iddo chwarae llond dwrn o gemau i’r ail dîm yn unig y tymor hwn ar ôl cael ei anafu eto yn erbyn Gwlad yr Haf.

Ond fe fu’n dioddef ers y tymor diwethaf, ac fe geisiodd e gyngor meddygol cyn penderfynu rhoi’r gorau iddi.

Cafodd ei enwi’n Chwaraewr Gorau’r Academi yn 2013, cyn mynd yn ei flaen i ymddangos yn y tîm cyntaf yn 2017.

Sgoriodd e fwy na 500 o rediadau yn y Bencampwriaeth y tymor diwethaf, gan gynnwys sgôr gorau erioed o 80 yn erbyn Swydd Caint yng Nghaergaint.

‘Breuddwyd cael cynrychioli Morgannwg’

“Daeth fy mreuddwyd yn wir o gael cynrychioli a chwarae dros Forgannwg, ac mae hynny wedi gwneud y penderfyniad i roi’r gorau i ’ngyrfa yn fwy anodd,” meddai Jack Murphy wrth gyhoeddi ei ymddeoliad.

“Bydda i bob amser yn falch o’m hamser a’m cyflawniadau gyda’r clwb, yn enwedig y gêm yn erbyn Swydd Caint y tymor diwethaf.

“Mae arna’i ddiolch mawr i’r clwb, y staff hyfforddi a’r holl staff cynorthwyol sydd wedi fy nghefnogi drwy gydol fy nhaith griced, o’m gêm gyntaf yn cynrychioli Criced Cymru yn naw oed i ennill fy nghap a chwarae criced dosbarth cyntaf.

“Er y bydd yn gyfnod anodd wrth addasu i fod allan o’r gêm dw i’n ei charu, dw i wedi cyffroi ynghylch yr hyn sydd gan y dyfodol i’w gynnig, y cyfleoedd sy’n aros amdana’i ac ymroi i yrfa newydd.

“Hoffwn hefydd ddiolch i’r PCA [Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol] am eu cefnogaeth dros y misoedd diwethaf wrth fy helpu i baratoi ar gyfer y penderfyniad hwn a’m cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

“Dw i wedi gwneud ffrindiau bore oes yn y gêm hon, ac yn dymuno pob llwyddiant i Forgannwg yn y dyfodol, a dw i’n diolch yn ddiffuant i bawb sydd wedi fy helpu a’m cefnogi.

‘Diolch’

“Hoffwn ddymuno’r gorau i Jack ar ran pawb ym Morgannwg, a diolch iddo am ei wasanaeth i’r clwb ar y cae ac oddi arno.

“Mae Jack yn aelod poblogaidd iawn o’r ystafell newid a’r clwb yn gyffredinol, ac mae’n destun tristwch mawr i Jack a’i deulu fod yn rhaid iddo dorri gyrfa mor addawol yn fyr oherwydd yr anaf.

“Dymunwn yn dda iawn i Jack ar gyfer y dyfodol, ac edrychwn ymlaen at ei weld e o amgylch y clwb.”