Mae buddugoliaeth yn debygol o fod allan o afael tîm criced Morgannwg ar ddiwrnod ola’r gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Derby ar gae San Helen yn Abertawe heddiw (dydd Gwener, Mehefin 14).

Ar y trydydd diwrnod, sgoriodd Billy Godleman 211 heb fod allan, yr ail sgôr unigol mwyaf erioed i’r sir yn erbyn y Cymry, a’u sgôr gorau erioed yn Abertawe, gan guro 175 John Morris yn 1988.

Mae’r ymwelwyr yn 504 am bedair ar ddechrau’r diwrnod olaf, ar y blaen o 110 yn eu batiad cyntaf.

Ar ôl colli sesiwn y bore yn ei chyfanrwydd oherwydd y glaw, dechreuodd y trydydd diwrnod am 2 o’r gloch, gyda 67 o belawdau’n weddill yn y dydd.

Cyrhaeddodd Billy Godleman ei ganred oddi ar 141 o belenni, ar ôl taro 16 pedwar, wrth i’w dîm glosio at ail bwynt batio am 250 o rediadau. Dyma’i drydydd canred ar ddeg mewn gemau dosbarth cyntaf i’r sir, a’i gyflymaf erioed.

Ac fe gyrhaeddodd ei bartner, Tom Lace ei ganred cyntaf yntau i’r sir oddi ar 157 o belenni, ar ôl taro 12 pedwar.

Dyma’r tro cyntaf i ddau o fatwyr Swydd Derby sgoriod canred a chanred dwbl yn yr un batiad.

Torri sawl record

Erbyn diwedd y bartneriaeth, roedden nhw wedi torri record John Wright a John Morris am y bartneriaeth drydedd wiced orau erioed i Swydd Derby yn erbyn Morgannwg (192). Daeth honno yn 1988 yn San Helen.

Ac fe wnaethon nhw guro’r bartneriaeth orau erioed i Swydd Derby ar gyfer unrhyw wiced yn erbyn Morgannwg, wrth fynd heibio partneriaeth Adrian Rollins a Michael May (247) yn Chesterfield yn 1997.

A dyma’r tro cyntaf, hefyd, i ddau fatiwr Swydd Derby sgorio canred yn yr un batiad yn San Helen, wrth i Billy Godleman gyrraedd 143 heb fod allan a Tom Lace 137 heb fod allan erbyn amser te, a’r sgôr yn 355 am ddwy.

Daeth y bartneriaeth enfawr o 291 i ben pan gafodd Tom Lace ei ddal yn sgwâr ar y ffin ar ochr y goes, gydag Owen Morgan yn cipio chwip o ddaliad isel ag un llaw ar ochr dde ei gorff.

Yn fuan wedyn, cyrhaeddodd Billy Godleman 150 oddi ar 229 o belenni, ar ôl taro 19 pedwar, y trydydd tro iddo sgorio 150 mewn batiad i’r sir mewn gêm dosbarth cyntaf.

Cafodd Alex Hughes ei daro ar ei goes o flaen y wiced gan Michael Hogan am 22, wrth i Swydd Derby golli eu pedwaredd wiced ar 394.

Ymunodd Harvey Hosein â’i gapten wrth y llain, ac fe aeth Billy Godleman yn ei flaen i gyrraedd ei ganred dwbl oddi ar 281 o belenni, ar ôl taro 23 pedwar, a’i sgôr gorau erioed i’r sir, gan guro 204 yn erbyn Swydd Gaerwrangon yn Derby yn 2014.

Toc cyn diwedd y dydd, roedden nhw wedi adeiladu partneriaeth o 100 ar lain sy’n hynod fflat erbyn hyn, ac yn cynnig ychydig iawn o gymorth i’r bowlwyr, ac fe gyrhaeddodd Harvey Hosein ei hanner canred oddi ar 75 o belenni, gan daro pum pedwar.

Uchafbwynt y dydd

Heb amheuaeth, uchafbwynt y dydd oedd daliad Owen Morgan i waredu Tom Lace, a hwnnw wedi adeiladu’r bartneriaeth allweddol gyda Wayne Madsen.

Roedd angen i Forgannwg dorri’r bartneriaeth honno er mwyn bod â gobaith o ennill y gêm yn y pen draw.

Mae Wayne Madsen yn dal wrth y llain, ond fe fydd gwaredu Tom Lace a rhoi terfyn ar y bartneriaeth wedi dod ag ochenaid o ryddhad i Forgannwg.