Bydd Morgannwg yn dechrau’r trydydd diwrnod mewn sefyllfa lawer cryfach na’r ail ddiwrnod ar gae San Helen yn Abertawe, wrth i Swydd Derby ail-ddechrau eu batiad cyntaf ar 221 am ddwy.

Tarodd Graham Wagg 100 wrth i Forgannwg gael eu bowlio allan am 394, ychydig yn brin o bwyntiau batio llawn.

Roedden nhw wedi bod dan bwysau ar ddechrau’r diwrnod ar 167 am bump, ond fe wnaeth partneriaeth allweddol o 167 rhwng Graham Wagg a Lukas Carey achub y dydd i’r sir Gymreig.

Manylion

Collodd Morgannwg eu chweched wiced yn gynnar iawn, wrth i Owen Morgan gael ei fowlio gan Tony Palladino am 43.

Roedd e a Dan Douthwaite wedi dechrau’n gadarn, wrth sgorio 27 yn ystod hanner awr gynta’r sesiwn cyn colli’r wiced.

Ond collodd Morgannwg ddwy wiced o fewn pum pelen i lithro ymhellach yn sgil cyfres o ergydion gwael.

Daeth ail wiced ar ôl awr gynta’r bore, wrth i Wayne Madsen jyglo’r bêl yn y slip oddi ar fowlio Logan van Beek i waredu Dan Douthwaite am 27, a’r sgôr yn 215 am saith.

A chwympodd y drydedd, ac wythfed wiced y batiad, pan darodd Tom Cullen ergyd at Matt Critchley yn y cyfar oddi ar fowlio Luis Reece am chwech, a’r sgôr yn 217 am wyth.

Bowlwyr Morgannwg yn achub y batiad

Pan ddaeth Graham Wagg a Lukas Carey at ei gilydd, fe ddechreuon nhw gyflymu’r gyfradd sgorio gyda chyfres o ergydion i’r ffin fel eu bod nhw’n ennill ail bwynt bonws am gyrraedd 250 ac yn mynd ymlaen i adeiladu partneriaeth o 66 erbyn amser cinio.

Aeth Graham Wagg yn ei flaen i gyrraedd ei hanner canred oddi ar 74 o belenni, ar ôl taro chwe phedwar ac un chwech, ac fe adeiladodd e bartneriaeth o 100 gyda Lukas Carey, y bartneriaeth nawfed wiced gyntaf erioed dros gant i Forgannwg yn erbyn Swydd Derby.

Hon yw’r bedwaredd bartneriaeth fwyaf erioed i unrhyw un mewn gêm dosbarth cyntaf yn erbyn Swydd Derby, a’r bartneriaeth nawfed wiced fwyaf erioed yn Abertawe.

Daeth hanner canred Lukas Carey oddi ar 70 o belenni, ar ôl iddo daro deg pedwar, ac fe aeth e ymlaen i adeiladu partneriaeth o 150 gyda Graham Wagg.

Sgoriodd Graham Wagg ei bedwerydd canred, ond ei gyntaf erioed yng Nghymru, oddi ar 101 o belenni, gan daro deg pedwar a phedwar chwech – wrth fynd o’i hanner canred i’w ganred mewn 27 o belenni.

Ond fe gafodd ei ddal oddi ar y belen nesaf wrth yrru ergyd fawr at Luis Reece oddi ar fowlio’r troellwr llaw chwith Leus du Plooy, a’r sgôr yn 384 am naw, wrth ddirwyn partneriaeth o 167 i ben.

Daeth y batiad i ben chwe rhediad yn brin o bwyntiau batio llawn ar 394, pan gafodd Michael Hogan ei stympio gan Harvey Hosein oddi ar fowlio Leus du Plooy am un.

Dechrau da gyda’r bêl

Adeiladodd Luis Reece a Billy Godleman bartneriaeth agoriadol o 52, cyn i Dan Douthwaite waredu Luis Reece am 29, wrth iddo gael ei ddal gan Graham Wagg yn safle’r goes hir.

Yn ystod ei fatiad, fe gyrhaeddodd e’r garreg filltir o 3,000 o rediadau dosbarth cyntaf yn ei yrfa.

Cwympodd yr ail wiced ar 74 ar drothwy amser te, wrth i Wayne Madsen gael ei ddal gan David Lloyd yn y slip oddi ar fowlio Lukas Carey am 20.

Brwydrodd Billy Godleman a Tom Lace yn ôl gyda phartneriaeth swmpus yn y sesiwn olaf, wrth i Tom Lace gyrraedd ei hanner canred oddi ar 64 o belenni, ar ôl taro wyth pedwar.

Ac fe gyrhaeddodd Billy Godleman y garreg filltir o 8,000 o rediadau dosbarth cyntaf yn ystod ei fatiad yntau, wrth gyrraedd ei hanner canred oddi ar 89 o belenni.

Sgorfwrdd