Mae’r Cymro Cymraeg, Owen Morgan, wedi’i gynnwys yng ngharfan Morgannwg ar gyfer y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Derby sy’n dechrau ar gae San Helen yn Abertawe heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 11).

Mae’r chwaraewr amryddawn yn cymryd lle ei gyd-droellwr Andrew Salter, ar ôl taro 123 yn erbyn ail dîm Hampshire yng Nghasnewydd yr wythnos ddiwethaf, ac fe gipiodd e chwe wiced am 21 yn erbyn ail dîm Swydd Gaerloyw.

Ond does dim lle i’r bowlwyr cyflym Marchant de Lange na Timm van der Gugten, gyda Michael Hogan, Graham Wagg, Lukas Carey a Dan Douthwaite i gyd wedi’u cynnwys.

Mae Graham Wagg wedi gwella o’r anaf i’w ysgwydd oedd wedi ei gadw allan o’r garfan i herio Swydd Northampton yn Northampton, ac mae’n bosib y bydd e’n cael ei gynnwys fel troellwr a bowliwr cyflym, yn dibynnu ar gyflwr y llain sy’n draddodiadol yn helpu troellwyr.

Gemau’r gorffennol yn erbyn Swydd Derby

Mae buddugoliaeth Morgannwg yn Northampton wedi eu codi nhw i’r ail safle yn yr ail adran, tra bod Swydd Derby yn bedwerydd ar Mae buddugoliaeth Morgannwg yn Northampton wedi eu codi nhw i’r ail safle yn yr ail adran, tra bod Swydd Derby yn bedwerydd ar ôl colli oddi cartref yn Durham.

Cyn y tymor diwethaf, Morgannwg oedd yn fuddugol yn yr ornest flaenorol rhwng y ddwy sir yn Abertawe yn 2003, a hynny o 70 rhediad wrth i Gymro Cymraeg arall, Robert Croft gipio chwe wiced am 71 cyn i Forgannwg orfodi’r Saeson i ganlyn ymlaen.

Mae Swydd Derby yn teithio i San Helen am yr unfed tro ar hugain, a dydyn nhw ddim wedi ennill yno ers mis Awst 1983, pan darodd John Hopkins ganred.

Pan heriodd y ddwy sir ei gilydd yn Llandrillo yn Rhos yn 2016, sgoriodd yr ymwelwyr 536 mewn gêm sy’n cael ei chofio’n bennaf am y canred dwbl cyflymaf erioed yn hanes y byd criced ar y pryd gan Aneurin Donald.

Gemau diweddar yn Abertawe

Er i Forgannwg golli o 251 o rediadau yn erbyn Swydd Northampton yn 2016, daeth dau o sêr ifanc y sir i amlygrwydd yn ystod y gêm honno.

Fe wnaeth yr Awstraliad Nick Selman, cyn-chwaraewr pêl-droed Awstralaidd, gario’i fat wrth sgorio 122, ei ganred cyntaf mewn gêm dosbarth cyntaf, ac fe gipiodd y bowliwr lleol Lukas Carey saith wiced am 151 yn yr ornest.

Nick Selman, sy’n enedigol o Brisbane, oedd y seren unwaith eto yn 2017 wrth gario’i fat a sgorio 116 oddi ar 129 o belenni, wrth i Forgannwg ennill yn annisgwyl o dair wiced yn y belwd olaf un yn erbyn Swydd Durham.

Yn gynharach yn yr ornest, cipiodd Michael Hogan bum wiced i osod y seiliau ar gyfer y fuddugoliaeth a diweddglo cyffrous.

Y tymor diwethaf, tarodd Usman Khawaja 126, yr ail o blith ei dri chanred yn olynol yn ei dair gêm cyntaf i’r sir, wrth i Kiran Carlson, Cymro ifanc o Gaerdydd, sgorio 152.

Ond roedden nhw’n ofer wrth i Swydd Derby frwydro i sicrhau gêm gyfartal yn y pen draw.

Y gwrthwynebwyr

Mae gan Swydd Derby record dda yn erbyn Morgannwg yn Abertawe, ar ôl ennill saith gêm a sicrhau wyth gêm gyfartal, a cholli pum gwaith yn unig.

Mae Luis Reece ac Alex Hughes, dau aelod o’r garfan bresennol, ymhlith 34 o chwaraewyr y sir sydd wedi taro canred dosbarth cyntaf yn erbyn Morgannwg.

Mae Sam Conners, chwaraewr ifanc o Academi Swydd Derby, wedi’i gynnwys yn y garfan yn lle Anuj Dal.

Mae’r capten Billy Godleman wedi perfformio’n dda yn ddiweddar, gan daro hanner canred cynta’r tymor yn erbyn Durham yn y gêm ddiwethaf.

Un arall oedd wedi chwarae’n dda yn y gêm honno yw Matt Critchley, oedd wedi taro hanner canred yn y naill fatiad a’r llall, ac wedi cipio tair wiced.

Cipiodd Ravi Rampaul wyth wiced yn yr ornest hefyd, gan ailadrodd ei gamp yn erbyn Morgannwg yn Derby y tymor diwethaf.

Morgannwg: D Lloyd (capten), N Selman, C Hemphrey, M Labuschagne, B Root, D Douthwaite, O Morgan, T Cullen, G Wagg, L Carey, M Hogan

Swydd Derby: B Godleman (capten), T Lace, L Reece, W Madsen, A Hughes, L du Plooy, H Hosein, M Critchley, L van Beek, T Palladino, R Rampaul

Sgorfwrdd