Mae cynnal gemau yng Nghwpan Criced y Byd yn gyfle i dyfu’r gêm yng Nghymru, yn ôl Hugh Morris, prif weithredwr Clwb Criced Morgannwg.

Mae Stadiwm Cymru Caerdydd yng Ngerddi Sophia wedi cynnal tair gêm hyd yn hyn, a’r gêm olaf yn cael ei chynnal yno ddydd Sadwrn nesaf (Mehefin 15).

Denodd bron i 3,000 o glybiau criced lleol yng Nghymru a Lloegr deuluoedd cyfan dros y penwythnos ac yn eu plith roedd Clwb Criced Caerdydd.

Roedd Hugh Morris, cyn-chwaraewr gyda Chaerdydd, yno i gwrdd â’r plant mae’n gobeithio eu hysbrydoli i gynrychioli a gwylio Morgannwg yn y dyfodol.

‘Braint enfawr’

“Mae cael cynnal pedair gêm yng Nghwpan y Byd yng Nghaerdydd yn fraint enfawr ac yn gyfle gwych hefyd,” meddai.

“Rydyn ni’n ceisio tyfu’r gêm yng Nghymru gymaint â phosib, ac ysbrydoli bechgyn a merched ar draws y wlad i afael mewn bat a phêl.

“Nid y gemau rydyn ni’n eu cynnal yn unig yw gwaddol Cwpan y Byd, ond hefyd y nifer o bobol ifanc y gallwn ni eu rhwymo wrth y gêm, a nifer ohonyn nhw am y tro cyntaf.

“Mae rhaglen griced All Stars wedi bod yn wych ledled Cymru, gyda mwy na 3,800 o fechgyn a merched yn cofrestru.

“Ond rhan o gael y plant hyn i ddewis criced yw cael mynediad iddyn nhw at eu harwyr.

“Mae cael gemau yma sy’n serennu chwaraewyr gorau’r byd… a chael tîm Cwpan y Byd Lloegr yn dod i Gaerdydd wir yn beth mawr i ni.”

Cystadlu gyda rygbi a phêl-droed

 Mae Hugh Morris yn cydnabod mai rygbi a phêl-droed yw’r prif gampau yng Nghymru, ond mae’n dweud ei fod yn gobeithio y gall Cwpan y Byd godi proffil a chynyddu apêl criced hefyd.

“Mae’n farchnad gystadleuol. Rygbi fu’r brif gamp yng Nghymru erioed, ac mae pêl-droed wedi tyfu’n sylweddol dros y 25 mlynedd diwethaf, ond rydyn ni am geisio bod yn gystadleuol tu hwnt.

“Yr allwedd yw cael mwy o fatiau a pheli mewn mwy o ddwylo a chodi’r proffil go iawn.”

Cystadleuaeth ddadleuol newydd

Fel rhan o’r ymdrechion i godi proffil criced yng Nghymru a Lloegr, mae’r ECB (Bwrdd Criced Cymru a Lloegr) wedi penderfynu cyflwyno cystadleuaeth can pelen newydd, The Hundred, y tymor nesaf.

Bydd y gystadleuaeth yn cynnwys wyth tîm, ac un ohonyn nhw wedi’i leoli yng Nghaerdydd.

Yr enw sydd wedi’i awgrymu ar gyfer y tîm yw Welsh Fire, sydd wedi corddi siroedd Gwlad yr Haf a Chaerloyw, sy’n cwyno bod yr enw’n rhy Gymreig ac nad yw’n adlewyrchu’r ‘rhanbarth’.

“Rydyn ni’n falch iawn o fod ymhlith yr wyth, a dw i’n credu bod gyda ni gyfle gwych i wneud iddi lwyddo yng Nghymru.

“Mae gyda ni gyfle’r un mor fawr yma i dyfu’r gêm ag sydd gan unrhyw le arall yn y wlad.

“Bydd pobol ifanc yn gallu gweld eu hoff chwaraewyr yma bob blwyddyn ac mae hynny’n bwysig.”