Mae Morgannwg yn mynd am y fuddugoliaeth ar ddiwrnod olaf eu gêm Bencampwriaeth yn Derby, diolch yn bennaf i fowlio campus Dan Douthwaite.

Cipiodd y chwaraewr amryddawn bedair wiced wrth i Forgannwg gyfyngu’r Saeson i gyfanswm o 171 am naw yn eu hail fatiad, sy’n golygu blaenoriaeth o 203 gydag un wiced yn unig wrth gefn.

Pe bai Morgannwg yn gallu cipio’r wiced olaf yn fuan ar y diwrnod olaf, byddan nhw’n hyderus o allu cwrso’r nod wrth fatio drwy gydol y dydd.

Cau pen y mwdwl 

Cipiodd Ravi Rampaul, y bowliwr cyflym o’r Caribî bum wiced am 94 yn ystod y trydydd diwrnod, wrth i Forgannwg gael eu bowlio allan am 346 yn eu batiad cyntaf.

Dechreuon nhw’r trydydd diwrnod ar 253 am bump ond buan y collodd Billy Root ei wiced, wrth i Luis Reece daro’i goes o flaen y wiced am 68.

Ond daeth partneriaeth allweddol i Forgannwg wedyn, wrth i Dan Douthwaite a Tom Cullen ychwanegu 72 at y cyfanswm mewn 29 pelawd am y seithfed wiced.

Cafodd Dan Douthwaite ei ddal gan y wicedwr Harvey Hosein oddi ar fowlio Ravi Rampaul am 39, ac erbyn hynny, roedd Morgannwg yn 307 am saith.

Cafodd Tom Cullen ei fowlio gan Ravi Rampaul am 40, a chafodd Andrew Salter ei ddal yn y slip gan Alex Hughes oddi ar fowlio Luis Reece, wrth i Forgannwg gyrraedd 320 am naw.

Tarodd Lukas Carey dri phedwar a chwech cyn cael ei ddal gan Tom Lace yn mynd am ergyd fawr arall oddi ar fowlio Ravi Rampaul, wrth i hwnnw gipio’i bumed wiced.

Ymateb Swydd Derby

Ar ôl i Billy Godleman gael ei ddal gan y wicedwr Tom Cullen i lawr ochr y goes oddi ar fowlio Michael Hogan ar naw i adael y Saeson yn 16 am un yn y chweched pelawd, tarodd Luis Reece a Wayne Madsen yn ôl i gyrraedd 96.

Ond cafodd Wayne Madsen gael ei ddal gan Nick Selman yn y slip oddi ar fowlio David Lloyd am 47.

Collodd Swydd Derby eu saith wiced nesaf am 60 o rediadau, wrth i Dan Douthwaite gipio pedair wiced mewn pum pelawd, ac roedden nhw wedi mynd o 111 am ddwy i 162 am naw o fewn 28 pelawd.

Un allan ar ôl y llall

Cyfunodd Nick Selman a David Lloyd i waredu Luis Reece am 31 yn ei belawd nesaf, cyn i Alex Hughes gael ei ddal gan Lukas Carey yn sgwâr ar ochr y goes am chwech, a’r sgôr yn 126 am bedair.

Roedd Swydd Derby yn 136 am bump pan gafodd Harvey Hosein ei ddal yn gelfydd gan Tom Cullen oddi ar fowlio Dan Douthwaite.

Cipiodd Dan Douthwaite ddwy wiced arall mewn pedair pelen, wrth fowlio Tom Lace am 29 cyn taro coes Matt Critchley o flaen y wiced am 11 i adael y Saeson yn 150 am saith.

Daeth pedwaredd wiced Dan Douthwaite pan ergydiodd Logan van Beek at y wicedwr Tom Cullen oddi ar ymyl ei fat, a’r sgôr bellach yn 156 am wyth.

Cwympodd y nawfed wiced ar 162 pan gafodd Tony Palladino ei fowlio gan Michael Hogan am bedwar.